Ymunwch â’n harbenigwyr lleol i archwilio’r Parc, ei dirwedd arbennig a’i fywyd gwyllt. Darganfyddwch ein mythau, chwedlau, treftadaeth ac archeoleg, gan ddysgu ar yr un pryd am ddyfodol ein Parc a pham mae angen i ni ei warchod.
Goleuo’r Cysgodion
Dydd Sul 26 Hydref
Ymunwch â ni yng Nghastell Caeriw i greu llusern cannwyll iasol eich hun i gymryd adref, perffaith ar gyfer Calan Gaeaf!
Nid oes angen archebu, dim ond troi i fyny. Mae taliadau mynediad arferol i’r ganolfan yn berthnasol.
£4 y llusern
Gwasgu Afalau yng Nghastell Henllys
Dydd Mawrth 28 Hydref, 11am-3pm
Gwasgu afalau gan ddefnyddio dulliau ein hynafiaid. Bydd ein Parcmyn ar y safle i helpu gyda’r gwasgu afalau traddodiadol. Rhowch gynnig arni eich hun – dewch ag afalau eich hun neu defnyddiwch rai o’n perllan dreftadaeth yn Sain Ffraid. Cofiwch ddod â photel os ydych am fynd â’ch sudd adref.
Bydd tân agored wedi’i oleuo hefyd er mwyn rhostio’r afalau.
Nid oes angen archebu. Mae taliadau mynediad arferol i’r ganolfan yn berthnasol.
Taith Nos Biofflworleuol – Coedwigoedd a Ffyngau
Dydd Mercher 29 Hydref, 5:30pm-7:30pm
Ymunwch â ni yng Nghastell Henllys am daith gerdded gyda’n Parcmon wedi iddi nosi i ddarganfod biofflworoleuedd hudolus y coetiroedd yn yr hydref. Dyma adeg y flwyddyn pan fydd ffyngau a chennau’n dod yn fyw yn y nos gyda dangosfa fywiog o liw.
Fel rhan o’r digwyddiad, byddwn yn cynnau tân ar gyfer sudd afal poeth neu afalau wedi’u rhostio o’r perllan dreftadaeth yn Sain Ffraid.
£15 y person (oed 8+)
Archebu’n hanfodol
Am ragor o wybodaeth ac i archebu: https://events.pembrokeshirecoast.wales/#eventcalendar_157|24521
Diwrnod Archaeoleg
Dydd Sadwrn 8 Tachwedd, 9:30-16:30
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a bydd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr yn trafod gwaith cloddio diweddar a phrosiectau o bob rhan o Sir Benfro. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosfa gyda gwybodaeth gan grwpiau cymunedol a mudiadau sy’n ymwneud â threftadaeth ac archaeoleg yr ardal.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd. Mae’r tocyn yn gynnwys cinio a lluniaeth. Anelwch i gyrraedd rhwng 9am a 9.30am i edrych ar y stondinau, te/coffi. Mi fydd cyflwyniadau’r dydd yn dechrau am 10am
£27.50 Tocyn Arferol Oedolyn
£18 Oed: 18-30 neu fyfyriwr
£15.00 Oed: 12-18 (mae rhaid i unigolion o dan 16 oed fod hefo oedolyn). Nodwch: Nid yw unigolion o dan 12 oed yn cael mynychu’r digwyddiad yma
Am ragor o wybodaeth ac i archebu: https://events.pembrokeshirecoast.wales/#eventcalendar_115|24019
Beth yw’r Rhydiwr Hwnnw – Little Milford
Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr, 10am-1pm
Gwisgwch yn gynnes ac ymunwch â’n Parcmon Chris am daith gerdded hamddenol ar hyd y Cleddau Wen. Darganfyddwch y bywyd gwyllt sy’n bwydo ar ei glanau. Mae hwn yn amser gwych i ddal golwg ar rydwyr y gaeaf fel y gylfinir a’r pibydd coesgoch
Bydd y daith gerdded hon o tua 3 milltir yn mynd ar hyd y ffyrdd a llwybrau troed. Gall fod yn fwdlyd mewn mannau felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo esgidiau addas. Mae binocwlars yn ddefnyddiol i ddarganfod adar. Cwrdd ym maes parcio coedwig Little Milford (parcio am ddim).
Am ragor o wybodaeth ac i archebu: https://events.pembrokeshirecoast.wales/#eventcalendar_153|24300