Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn lansio prosiect ‘Gwasgu Afalau 2026’, diolch i gymorth gan Sefydliad Bluestone

Posted On : 22/01/2026

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn falch o lansio prosiect ‘Gwasgu Afalau 2026’, gyda chymorth gan Gronfa Gymunedol Sefydliad Bluestone. Mae’r cyllid wedi galluogi’r Ymddiriedolaeth i brynu gwasgwr afalau Speidel 2.2kW trydan. Bydd y gwasgwr newydd yn cymryd lle’r offer llaw oedd yn arfer cael eu defnyddio gan Barcmyn y Parc Cenedlaethol yn y gweithdai gwasgu afalau poblogaidd.

Mae’r gwasgwr newydd yn fwy diogel, effeithlon a hygyrch, ac yn rhoi cyfle i bobl o bob oed a gallu i wasgu afalau wrth ddysgu am berllannau traddodiadol, gwahanol fathau o afalau Cymreig, a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal ledled Sir Benfro, gan gynnwys Castell Caeriw a lleoliadau cymunedol eraill. Mae sôn bod rhywbeth arbennig yn digwydd yn Bluestone yn y flwyddyn nesaf, felly dechreuwch gasglu eich afalau!

Mae sesiynau gwasgu afalau yn gyfle i ymgysylltu ag ysgolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol, gan hyrwyddo dulliau dysgu ymarferol, rhoi cyfle i wahanol genedlaethau gymryd rhan, a chreu cysylltiad dyfnach â’r amgylchedd naturiol. Drwy wneud y gweithdai hyn yn fwy diogel, yn gyflymach ac yn fwy cynhyrchiol, bydd y prosiect yn gallu rhoi rhagor o gyfleoedd i gymunedau ymgysylltu â thraddodiadau bwyd lleol a bioamrywiaeth.

Dywedodd, Marten Lewis, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Bluestone: “Rydym ni’n falch o weld y prosiect hwn yn dod yn fyw. Ac mae’n braf cael cyfle i gefnogi prosiect sy’n ymarferol, yn addysgiadol, ac yn dda i gymunedau ledled Sir Benfro!”

Mae’r prosiect hwn yn rhan o genhadaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth i warchod a gwella Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, cefnogi bioamrywiaeth, gwarchod treftadaeth a chysylltu cymunedau â’r awyr agored. Bydd y gwasgwr newydd yn cael ei frandio â logo Bluestone, gan dynnu sylw at eu hymrwymiad i lesiant cymunedol ac ymgysylltu amgylcheddol.