Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn gwahodd busnesau lleol i ymuno â’r Ymgyrch Tacluso Traethau
Yn dilyn digwyddiad tacluso traeth llwyddiannus ym Maenorbŷr ym mis Hydref, lle casglodd gwirfoddolwyr bum llond bag o sbwriel, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro unwaith eto’n gwahodd busnesau lleol i helpu i warchod arfordir trawiadol Sir Benfro.
Bydd y Digwyddiad Tacluso Traethau nesaf yn cael ei gynnal ar Draeth Llanrhath ddydd Mercher 21 Ionawr 2026 am 2pm. Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau a gwirfoddolwyr roi’n ôl i’r amgylchedd, mwynhau’r awyr iach, a chysylltu ag aelodau o’r gymuned sydd o’r un anian â nhw ac sydd wedi ymrwymo i warchod harddwch naturiol traethau Sir Benfro.
Dywedodd Sam Morgan o Signspeed wrthym fod “mynd allan o’r swyddfa am awyr iach i gwrdd â phobl newydd a helpu i amddiffyn ein harfordir hardd yn brofiad gwych. Cafodd tîm Signspeed amser wrth eu bodd yn tacluso’r traeth.”
Diolch yn arbennig i bartneriaid y digwyddiad, sy’n cynnwys Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cwmni Buddiannau Cymunedol Blue Horizons, Tir Coed, Signspeed, y Cyngor Astudiaethau Maes, a Sakura Coast Clothing. Eu cefnogaeth a’u hysbryd cymunedol nhw wnaeth helpu i wneud y digwyddiad tacluso blaenorol yn gymaint o lwyddiant.
Gofynnir i fusnesau a gwirfoddolwyr sy’n awyddus i gymryd rhan yn y digwyddiad tacluso fis Ionawr 2026 gadarnhau eu bod yn bwriadu dod drwy gysylltu â’r Swyddog Cyllido, Abi Marriott, drwy anfon e-bost at abim@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffonio 07773 788 196.
Mae tacluso’r traeth yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd i gadw traethau Sir Benfro yn daclus ac yn hardd – gan fwynhau’r cyfle i rwydweithio, sgwrsio a chwrdd â thîm Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.
