Y fagnel fawr yn dychwelyd ar gyfer arddangosiad olaf yr haf yng Nghastell Caeriw
Bydd magnel enfawr Castell Caeriw yn dychwelyd ar gyfer ei arddangosiad olaf o'r tymor, gan roi un cyfle olaf i ymwelwyr brofi pŵer a manylder rhyfel gwarchae canoloesol.
Cynhelir yr arddangosiad am 2.30pm ar ddydd Mawrth 26 Awst, fel rhan o raglen y Castell o ddigwyddiadau byw dros yr haf. Dyma arddangosiad ar gyfer cynulleidfa eang lle ceir cyfle prin i weld magnel maint llawn ar waith a dysgu sut y byddai wedi cael ei ddefnyddio yn ystod gwarchae canoloesol.
Roedd magnelau (trebuchets) ymhlith arfau mwyaf pwerus eu hoes, yn gallu dymchwel waliau cerrig a tharo targedau o bell. Gan ddefnyddio system wrthbwyso i lansio taflegrau trwm, arferai’r peiriannau hyn chwarae rhan ganolog mewn rhyfela gwarchae.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae’r fagnel yn eich gorfodi i edrych ar y Castell fel caer, nid fel adfail yn unig. Gyda dim ond un arddangosiad ar ôl y tymor yma, mae’n ffordd bwerus o weld y Castell drwy lygaid canoloesol – fel lle sydd wedi’i adeiladu ar gyfer amddiffyn, goroesi a chryfder.”
Ar y rhestr fer ar gyfer y Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro 2024, mae’r fagnel fawr wedi dod yn un o uchafbwyntiau rhaglen haf y Castell.
Ochr yn ochr â phrif ddigwyddiad y dydd, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu archwilio gorffennol diwydiannol y Castell yn y Felin Heli – yr unig felin lanw sydd wedi’i hadfer yng Nghymru – sy’n dal ar agor bob dydd drwy gydol y gwyliau. Bydd Ystafell De Nest, sydd yn yr Ardd Furiog ger mynedfa’r Castell, yn cynnig diodydd poeth ac oer, cacennau cartref a chinio ysgafn – lle i gael gorffwys am ychydig cyn troi am adref.
Mae manylion llawn yr holl weithgareddau a digwyddiadau yng Nghastell Caeriw ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/digwyddiadau-castell-caeriw/.