Un o Barcmyn Arfordir Penfro yn cael ei hanrhydeddu yng Ngwobrau Noddfa’r Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae un o barcmyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Noddfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn am y gwaith cadwraethol mae hi wedi ei wneud ers dros ddau ddegawd ym Maes Tanio Castellmartin.
Cafodd Lynne Houlston ei hanrhydeddu â Thlws y Dyfrgi Arian am ei hymrwymiad i waith rheoli cadwraeth ym maes tanio Castellmartin. Mae’r wobr hefyd yn cydnabod ei chyfraniad hi at helpu i ganfod y man canol rhwng rôl hanfodol y safle fel man hyfforddi, a phwysigrwydd cenedlaethol y bywyd gwyllt sy’n byw yno a threftadaeth y safle.
Dechreuodd Lynne yn ei gwaith gydag Awdurdod y Parc yn 2003, mewn swydd oedd yn cael ei hariannu ar y cyd rhwng y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn, Awdurdod y Parc a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r cydweithio hwn wedi trawsnewid y ffordd mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn rheoli ei meysydd hyfforddi mwyaf sensitif, gan sicrhau bod defnydd milwrol a chadwraeth natur yn digwydd ochr yn ochr.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydym ni’n falch iawn o weld gwaith caled ac ymroddiad Lynne yn cael cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol. Drwy ei hymrwymiad i warchod tirwedd unigryw Castellmartin, y bywyd gwyllt sy’n byw yno a threftadaeth y safle gan gadw mewn cof a chefnogi anghenion hyfforddi’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gwelir sut y gall pobl a natur elwa o waith cydweithio effeithiol.”
Mae Gwobrau Noddfa’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dathlu gwaith arbennig ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd ar draws ystâd y Weinyddiaeth Amddiffyn.