Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Caeriw

Posted On : 25/07/2025

Bydd Castell Caeriw yn cynnal dwy noson fythgofiadwy o theatr awyr agored dros yr wythnosau nesaf, gyda pherfformiadau o The Tempest gan Shakespeare a’r sioe gerdd boblogaidd The Wind in the Willows i'r teulu.

Cynhelir y perfformiad cyntaf nos Fawrth 29 Gorffennaf, pan fydd The Tempest yn dod â stori fwyaf hudolus Shakespeare yn fyw am hud a lledrith, anhrefn, rhamant a dialedd. Caiff y cynhyrchiad llawn egni hwn ei gyflwyno gan Immersion Theatre. Bydd y gynulleidfa yn cymryd rhan ac mae’n ddelfrydol i bobl sydd wedi hen arfer mynd i’r theatr a newydd-ddyfodiad i waith Shakespeare.

Bydd The Wind in the Willows ar y llwyfan yr wythnos ganlynol, nos Fawrth 5 Awst. Bydd y sioe gerdd fywiog hon i’r teulu yn dilyn antur glan yr afon Ratty, Mole, Badger a’r anorchfygol Mr Toad. Dyma sioe llawn direidi, cerddoriaeth a chymeriadau mawr.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Theatr awyr agored yw un o uchafbwyntiau’r haf yng Nghaeriw. Mae’r lleoliad yn siarad drosto’i hun, ond mae’r digwyddiadau hyn yn wefreiddiol oherwydd y cyfuniad o’r lleoliad, y perfformiad a’r awyrgylch. Maen nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol – nid dim ond i’r cynulleidfaoedd, ond i bawb sy’n ymwneud â dod â nhw’n fyw.”

Bydd y gatiau’n agor am 5.30pm i The Tempest nos Fawrth 29 Gorffennaf, gyda’r perfformiad yn dechrau am 6.30pm. Ar gyfer The Wind in the Willows nos Fawrth 5 Awst, bydd y gatiau’n agor am 4.45pm a bydd y sioe yn dechrau am 5.30pm.

Mae’n syniad da i ymwelwyr ddod â blanced neu gadair â chefn isel gyda nhw. Mae croeso i chi ddod â phicnic gyda chi, a bydd diodydd poeth a hufen iâ ar gael. Bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal mewn tywydd gwlyb, felly mae’n syniad da gwisgo dillad cynnes sy’n dal dŵr, a dod â thortsh.

Mae’n rhaid i chi archebu lle. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/theatr-awyr-agored.