Targedu rhwystrau rhag teithio i’r gwaith yn Ninbych-y-pysgod fel rhan o ymchwil newydd
Mae arolwg newydd dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn galw ar fusnesau twristiaeth, gweithwyr a cheiswyr gwaith i helpu i ganfod rhwystrau trafnidiaeth sy'n effeithio ar fynediad at waith tymhorol yn Ninbych-y-pysgod.
Mae’r prosiect yn rhan o ddull ehangach yr Awdurdod o hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, ac mae’n cael ei ariannu drwy raglen ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei ddarparu gan Martin Higgitt Associates, sef yr ymgynghorwyr trafnidiaeth, a bydd yn cael ei gynnal drwy gydol tymor ymwelwyr 2025, gan ddod i ben yn ystod yr hydref.
Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar yr heriau sy’n wynebu busnesau wrth geisio recriwtio staff, a chan unigolion sydd yn gweithio yn Ninbych-y-pysgod ar hyn o bryd, neu sydd eisiau gweithio yno, ond sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad at drafnidiaeth. Bydd y canlyniadau’n helpu i asesu atebion posibl, fel gwasanaethau bysiau i weithwyr, cynlluniau rhannu tacsi, neu drefniadau rhannu lifft.
Dywedodd y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall, Cynghorydd dros Ward Dde Dinbych-y-pysgod ac Aelod o Awdurdod y Parc:
“Gallai’r ymchwil hon helpu i nodi faint o broblem yw mynediad teithio i staff sy’n cael swyddi, ac i fusnesau sy’n recriwtio staff – a sut y gallai mynd i’r afael â’r problemau hyn helpu busnesau Dinbych-y-pysgod i ffynnu. Wrth wneud hynny, gall roi gwybodaeth ddefnyddiol i lefydd eraill ar hyd arfordir Sir Benfro, a’r tu hwnt.”
Elfen arall o’r astudiaeth fydd archwilio’r potensial ar gyfer gwell gwasanaethau bws i ymwelwyr ar hyd coridor y B4318, gan wella mynediad at gyrchfannau allweddol fel Heatherton World of Activities, The Dinosaur Park, Manor Wildlife Park, Great Wedlock Deer Park a Chastell Caeriw.
Mae dau arolwg wedi’u lansio fel rhan o’r prosiect. Mae’r Arolwg Teithio Cyflogwyr ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yn Ninbych-y-pysgod a’r cyffiniau sydd wedi wynebu heriau staffio oherwydd problemau trafnidiaeth. Mae’r Arolwg Teithio Gweithwyr ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn Ninbych-y-pysgod ar hyn o bryd, neu sydd wedi gwrthod gwaith yno oherwydd anawsterau teithio. Mae hefyd yn agored i geiswyr gwaith sydd wedi ystyried gwaith tymhorol yn y dref, ond a oedd yn teimlo bod trafnidiaeth yn rhwystr.
Mae cyflogwyr yn cael eu hannog i rannu’r arolwg gweithwyr gyda’u staff. Mae’r ddau arolwg yn cymryd llai na 10 munud i’w llenwi, ac maent yn cynnwys yr opsiwn o gael sgwrs ddilynol fer gyda’r tîm ymchwil. Bydd yr holl ddata personol yn cael ei drin yn gyfrinachol a’i ddileu erbyn 31 Mawrth 2026.
Mae’r Arolwg Teithio Cyflogwyr ar gael yn ddwyieithog yn https://forms.office.com/e/0mkspnEBhW.
Mae’r Arolwg Teithio Gweithwyr ar gael yn ddwyieithog yn https://forms.office.com/e/msRFksiPZk.
I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd eich data chi’n cael ei ddefnyddio, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/preifatrwydd.
