Taith y Chwedlau yn dod â chymunedau ynghyd ar gyfer dathliad yn Nhyddewi

Posted On : 09/03/2026

Daeth ysgolion, teuluoedd, busnesau lleol ac ymwelwyr o bob rhan o Sir Benfro ynghyd yn Nhyddewi ddydd Sadwrn, 28 Chwefror, ar gyfer dathliad lliwgar Gŵyl Dewi i nodi diwedd prosiect celfyddydau cymunedol mawr.

Wedi’i gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Oriel y Parc, roedd Taith y Chwedlau yn ganolbwynt i raglen hanner tymor ehangach a ysbrydolwyd gan chwedlau Cymru ac a gefnogwyd gan gyllid Llywodraeth Cymru. Roedd y prosiect yn cyfuno adrodd straeon, celf, cerddoriaeth a gweithgareddau dwyieithog, yn arwain at yr orymdaith flynyddol drwy’r ddinas.

Mynychwyd y dathliad gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ynghyd â gwesteion gwahodd, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr, wrth i Dyddewi ddod yn fyw gydag adenydd dreigiau, cennin Pedr, pennau baeddod a chreadigaethau gwaith llaw eraill a gynhyrchwyd mewn gweithdai a sesiynau galw heibio yn ystod yr wythnosau cyn y digwyddiad.

Roedd gwaith paratoi ar gyfer yr orymdaith yn cynnwys gwaith allgymorth helaeth gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, yn ogystal â gweithdai a gweithgareddau yn safleoedd eraill yr Awdurdod, sef Castell Caeriw a Chastell Henllys. Cymerodd cyfanswm o 255 o unigolion ran mewn gweithdai a sesiynau cymunedol, gan gynnwys 102 o ddisgyblion ysgol a 153 o blant, pobl ifanc ac oedolion o nifer o grwpiau gwahanol.

Cyflawnwyd y prosiect gyda’r artist Kate Evans a’r storïwyr Phil Okwedy a Michael Harvey, gan weithio gyda chyfranogwyr i archwilio chwedlau Cymru drwy stori gyfoes wedi’i gwreiddio mewn creadigrwydd, cymuned ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.

Samba Doc a’u drymio deinamig oedd ar flaen yr orymdaith wrth iddi gychwyn o Oriel y Parc am 2pm, gan lenwi Stryd Fawr dinas leiaf Prydain â cherddoriaeth, symudiad a hwyl Gymreig.

Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, parhaodd Taith y Chwedlau ar hyd y Stryd Fawr gyda llwybr a gynhaliwyd gan 16 o fusnesau. Darluniodd Elen Beynon o dîm Oriel y Parc y safleoedd stori, a daeth y wobr drwy garedigrwydd Chapel Chocolates yn Nhyddewi.

Hefyd, roedd Oriel y Parc yn gartref i Farchnad Grefftau Gwaith Llaw Makers Bizarre, gan ychwanegu at awyrgylch yr ŵyl a rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr gefnogi gwneuthurwyr lleol.

Meddai Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Roedd Taith y Chwedlau yn llawer mwy na ddim ond gorymdaith un prynhawn. Roedd yn ganlyniad i wythnosau o waith creadigol gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, artistiaid, storïwyr a busnesau, i gyd yn dod ynghyd i ddathlu diwylliant Cymru mewn ffordd ddychmygus a chynhwysol. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan, ac yn bleser cael croesawu’r Prif Weinidog i rannu yn y digwyddiad cymunedol bywiog hwn.”

Fel rhan o ddathliadau ehangach Gŵyl Dewi, cafodd ymwelwyr ag Oriel y Parc, Castell Henllys a Chastell Caeriw duswau o gennin Pedr am ddim dros y penwythnos.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, arddangosfeydd ac amseroedd agor Oriel y Parc, ewch i www.orielyparc.co.uk.