Staff South Hook LNG yn codi dros £3,000 i gefnogi natur a phobl ledled Sir Benfro

Posted On : 31/10/2025

Mae staff o South Hook LNG wedi codi mwy na £3,000 i gefnogi Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro drwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd.

Llwyddodd ugain aelod o dîm South Hook LNG I gwblhau’r her o 13.1 milltir ddydd Sul 5 Hydref, gan godi swm anhygoel o £1,580 drwy roddion ar JustGiving. Cyfatebodd y cwmni’r swm a godwyd i greu cyfanswm o £3,160.

Bydd yr arian yn helpu Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro i barhau â’i gwaith o ddiogelu tirweddau a bywyd gwyllt arbennig y Parc Cenedlaethol, tra’n cefnogi prosiectau sy’n helpu pobl i gysylltu â natur ac i wella lles.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a South Hook LNG wedi gweithio mewn partneriaeth ers 2019 trwy’r prosiect Gwreiddiau Roots, cydweithrediad sy’n cysylltu plant â natur ac yn annog dysgu am fioamrywiaeth leol, rhwydweithiau bwyd a byw’n gynaliadwy. Ers hynny, mae South Hook LNG wedi parhau i gefnogi’r Ymddiriedolaeth, gan helpu i gyflwyno prosiectau sy’n elwa pobl a’r amgylchedd naturiol ledled Sir Benfro.

“Rydym yn falch o barhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro – y tro hwn, drwy ymdrechion codi arian ein Pobl,” meddai Rheolwraig PR South Hook, Mariam Dalziel.

“Yn ein chweched blwyddyn o gefnogi’r prosiect Gwreiddiau, mae ein timau’n llawn ymroddedig i waith yr Ymddiriedolaeth ac yn arbennig o falch o’r profiadau sy’n cael eu cynnig i blant ysgolion cynradd ledled Sir Benfro.”

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwraig Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydym mor ddiolchgar i bawb yn South Hook LNG am eu hymdrechion gwych i godi arian. Mae cwblhau Hanner Marathon Caerdydd yn gyflawniad mawr, ac fe fydd eu haelioni yn ein helpu i gyflwyno prosiectau sy’n gwarchod bioamrywiaeth, gwella cynefinoedd a gwneud y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch i bawb.”

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru, rhif elusen 1179281. I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei gefnogi a sut gallwch chi gymryd rhan, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.