Sefydliad Waterloo yn cefnogi parhad rhaglen blynyddoedd cynnar Y 1,000 Diwrnod Cyntaf
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn falch o gyhoeddi bod cymorth newydd wedi dod i law gan Sefydliad Waterloo i alluogi Y 1,000 Diwrnod Cyntaf, rhaglen chwarae awyr agored y blynyddoedd cynnar sy’n cael ei ddarparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i barhau hyd at haf 2026 wrth i gyllid tymor hwy gael ei sicrhau.
Mae’r rhaglen yn darparu sesiynau chwarae strwythuredig yn yr awyr agored i blant ifanc iawn a’u rhieni neu eu gofalwyr, gan ganolbwyntio’n benodol ar helpu teuluoedd i ymdopi â gwahaniaethau niwroddatblygiadol. Ers treialu’r fenter yn 2022, mae teuluoedd wedi disgrifio’r sesiynau’n gyson fel rhai trawsnewidiol, sy’n cynnig amgylchedd diogel a synhwyraidd briodol lle gall plant archwilio, rheoleiddio a dysgu ar eu cyflymder eu hunain.
Mae’r cymorth hwn gan Sefydliad Waterloo yn sicrhau bod y rhaglen yn gallu parhau’n ddi-dor yn ystod cyfnod o ansicrwydd ariannol. Mae’n galluogi’r tîm i barhau i gynnal sesiynau awyr agored cynhwysol bob wythnos, cyrraedd teuluoedd mewn cymunedau gwledig, a chynnig darpariaeth wedi’i thargedu i blant ag anghenion ychwanegol.
Mae rhieni’n dweud wrthym yn rheolaidd faint mae’r rhaglen wedi rhoi hwb i’w hyder, lleihau unigrwydd, a’u helpu i fwynhau amser yn yr awyr agored gyda’u plant. Mae llawer yn gweld newidiadau datblygiadol ystyrlon yn eu plant, gan gynnwys cysgu’n well, mwy o eirfa, a rheoli emosiynau’n well.
Dywedodd Kelly Davies, Gweithiwr Chwarae Awyr Agored y rhaglen: “Rydyn ni’n gweld bob wythnos faint mae’r sesiynau hyn yn ei olygu i deuluoedd. Mae plant sy’n ei chael hi’n anodd mewn amgylcheddau prysur dan do yn gallu ymlacio yn yr awyr agored. Mae rhieni’n dweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo’n llai unig ac yn fwy hyderus, ac mae’n fraint eu helpu nhw drwy gyfnod mor bwysig yn natblygiad eu plentyn.”
Ychwanegodd Abi Marriott, Swyddog Cyllido Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Sefydliad Waterloo am alluogi’r gwaith hanfodol hwn i barhau. Mae eu cymorth yn rhoi sefydlogrwydd i deuluoedd ar adeg pan fo’r galw’n cynyddu a’r cyllid yn ansicr. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau buddsoddiad tymor hwy, ac mae’r cyfraniad hwn yn sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ddarparu’r gefnogaeth arbenigol y mae cynifer o deuluoedd yn dibynnu arni.”
Drwy gydol 2026, bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gasglu adborth manwl gan rieni a gofalwyr i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y rhaglen ac i gefnogi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd datblygiadol, llesiant teuluoedd, a manteision ehangach gweithgareddau chwarae cynhwysol yn yr awyr agored.
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod pob plentyn – beth bynnag fo’i anghenion, ei allu neu ei god post – yn cael cyfle i ffynnu ym myd natur yn ystod ei flynyddoedd cynharaf.