Rhyfeddodau bywyd gwyllt a hwyl i’r teulu cyfan dros hanner tymor ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Bydd gan deuluoedd sydd eisiau manteisio i’r eithaf ar hanner tymor mis Mai ddigon i’w wneud ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae pob math o ddigwyddiadau ar y gweill yn ystod yr wythnos, gan gynnwys teithiau cerdded bywyd gwyllt, anturiaethau archeolegol, teithiau môr ladron, a gweithdai celf a chrefft ar thema’r môr. Mae’r wythnos yn addo i fod yn gymysgedd dda o grwydro, o greadigrwydd, ac o ddarganfod.
Bywyd gwyllt sy’n cael ein sylw’r hanner tymor hwn, gyda chyfres o deithiau tywys sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr grwydro cilfachau tawel y Parc a gweld uchafbwyntiau’r tymor. Byddwn ni’n dechrau’r wythnos drwy edrych yn fanylach ar un o’n preswylwyr lleiaf a phrysuraf. Gweld Gwenyn: ar 27 Mai, byddwn ni’n mynd ar daith gerdded hamddenol drwy gaeau a gwrychoedd Skrinkle Haven, ac yn rhoi cyngor ar sut i ganfod ac adnabod y pryfed peillio lleol.
Ar ôl iddi dywyllu, byddwn ni’n cynnal dwy daith gerdded a fydd yn rhoi gwedd wahanol ar y Parc. Ar 28 Mai, ymunwch ag Ystlumod Ysblennydd yn Nhyddewi ar daith drwy’r ddinas liw nos. Dyma gyfle arbennig i ddefnyddio teclynnau canfod ystlumod i wrando ar eu galwadau uchel yn adleisio drwy’r Gadeirlan a Llys yr Esgob. Y noson ganlynol, bydd Taith Gerdded Ystlumod yn cael ei chynnal yng Nghaeriw. Dyma gyfle unigryw i grwydro’r Castell ar ôl iddi nosi, a gweld y rhywogaeth a warchodir o fewn waliau hynafol y castell gyda’ch llygaid eich hun.
I’r rhai ohonoch sydd eisiau mynd ar antur yng ngolau’r dydd, bydd y daith gerdded drwy’r Blodau Gwyllt yn ne Aberllydan ar 29 Mai yn gyfle da i fynd ar daith fwy hamddenol a chael edrych yn fanylach ar y blodau sy’n tyfu ar hyd yr arfordir. Bydd y daith hamddenol hon yn cael ei chynnal yn y bore, dan arweiniad tywysydd arbenigol a fydd yn tynnu sylw at sut y gellir defnyddio rhai o flodau gwyllt amlycaf y parc mewn bwyd ac mewn meddyginiaeth.
Mae hanes amrywiol y Parc hefyd yn cael sylw yn ein rhaglen ar gyfer yr hanner tymor. Ym Mhorthmawr ar 27 Mai bydd Taith Gerdded Drwy Amser yn cael ei harwain gan un o Barcmyn y Parc ac Archeolegydd Cymunedol Awdurdod y Parc, a bydd hi’n cynnwys archeoleg, hanes, bywyd gwyllt a daeareg. Mae’r daith gerdded hon yn gyfle i archwilio ac ymgolli yn straeon cudd y dirwedd, ac i weld sut mae’r rhan unigryw hwn o’r arfordir wedi ei siapio gan amser, llanw, a phobl.

Yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, bydd y thema arfordirol yn parhau yn rhaglen yr hanner tymor, ond y tro hwn mae elfen greadigol i’r digwyddiadau. Rhwng dydd Sadwrn 24 Mai a dydd Sul 1 Mehefin, bydd teuluoedd yn cael cymryd rhan yn Helfa Drysor y Môr Ladron ar dir Oriel y Parc. Yn ystod yr helfa byddwch chi’n cael cyfle i weld y pentiroedd o amgylch yr oriel wrth chwilio am gliwiau a thrysor sydd wedi eu cario i’r lan. Bydd Gweithdy Gwnewch ac Ewch Tlysau Môr, yn cael ei gynnal ddydd Mercher 28 Mai a bydd pob un o’r mynychwyr yn cael cyfle i greu eu trysorau arfordirol eu hunain. Yna, ar 31 Mai, bydd Marchnad Grefftau mis Mai yn dychwelyd gyda phob math o stondinau unigryw a fydd yn gwerthu nwyddau wedi’u gwneud â sgil, gofal, a chreadigrwydd. Pa ffordd well o gloi’r wythnos?
I weld holl fanylion y digwyddiad, ac i drefnu eich ymweliad, ewch i: www.orielyparc.co.uk neu https://www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.
Mae amrywiaeth o deithiau cerdded â golygfeydd godidog ar gael yma i’r rhai sy’n awyddus i grwydro rhagor o’r ardal: www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/cerdded-yn-y-parc/teithiau-gwe/.
Mae offer cymorth symudedd fel cadeiriau olwyn, ar gael mewn sawl lleoliad yn y Parc. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau/.