Pwyllgor Grantiau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dyfarnu cyllid i bum prosiect cymunedol arloesol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi dyfarnu cyllid i bum prosiect blaengar yn dilyn rownd gystadleuol iawn o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.
Yn ei gyfarfod ddiwedd mis Ionawr, adolygodd y Pwyllgor Grantiau bymtheg o geisiadau o bob rhan o Sir Benfro. Roedd safon eithriadol o uchel y cynigion yn golygu ei bod hi’n broses ddethol anodd, gyda’r prosiectau llwyddiannus yn sefyll allan am eu gweledigaeth glir a’u hymrwymiad i nodau’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.
Dyma’r pum ymgeisydd llwyddiannus:
- Trawsnewid Bro Gwaun
- Yr Hen Ysgol, Dinas
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (Ynys Sgogwm)
- Neuadd Bentref Angle
- Cyngor Dinas Tyddewi
Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys gosod systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cymunedol a gwelliannau ôl-osod mewn hybiau cymunedol lleol.
Dywedodd Bethan Jones, Swyddog Cynaliadwyedd gydag Awdurdod y Parc: “Roedd hi’n galonogol gweld syniadau mor uchelgeisiol yn dod o’n cymunedau lleol. Mae’r prosiectau hyn yn cynnig atebion arloesol a fydd yn sicrhau effaith barhaol a chadarnhaol ar draws cymunedau yn y Parc Cenedlaethol.”
Gyda’r cyllid wedi’i sicrhau erbyn hyn, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y prosiectau hyn. Bydd manylion rownd nesaf cyllid y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cael eu cyhoeddi yn syth ar ôl cadarnhau cyllidebau’r dyfodol, a bydd diweddariadau’n cael eu rhannu drwy Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a rhwydweithiau cymunedol eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/awdurdod-y-parc-cenedlaethol/cronfa-datblygu-cynaliadwy.