Partneriaeth twristiaeth newydd yn tynnu sylw at brif atyniadau Sir Benfro

Posted On : 25/06/2025

Gall y rhai sy’n ymweld ag un o atyniadau mwyaf poblogaidd Sir Benfro i dwristiaid ddarganfod hyd yn oed mwy o’r hyn sydd gan y sir i’w gynnig, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Folly Farm ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Fel rhan o’r fenter, mae Folly Farm wedi bod yn hael iawn yn rhoi lle yn ei ardal chwarae dan do i Awdurdod y Parc Cenedlaethol arddangos panel sy’n hyrwyddo tri o atyniadau poblogaidd yr Awdurdod i ymwelwyr: Castell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi.

Mae’r bartneriaeth yn rhan o ymdrech ehangach i annog mwy o gydweithio ar draws y sector twristiaeth, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau posibl yn ystod eu hamser yn Sir Benfro.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae cydweithio yn y diwydiant twristiaeth yn hollbwysig er mwyn darparu’r profiad gorau posibl i’r rhai sy’n ymweld â Sir Benfro. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Folly Farm am roi’r cyfle hwn i ni dynnu sylw at y safleoedd a’r profiadau gwych sy’n cael eu rheoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

“Mae partneriaethau fel hyn yn dangos sut gall busnesau a sefydliadau twristiaeth weithio gyda’i gilydd i ymestyn eu cyrhaeddiad ar y cyd, gan gyfeirio ymwelwyr at ystod ehangach o brofiadau a’u hannog i aros yn hirach, ymweld yn rheolaidd, ac ymgysylltu mwy â’r ardal leol.”

Dywedodd Gareth Morris, Swyddog Marchnata yn Folly Farm: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gydag Awdurdod y Parc ac yn falch o gefnogi ei ymdrechion i hyrwyddo a gwarchod treftadaeth naturiol a diwylliannol unigryw ein sir. Pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu profiad gwell i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, yn ogystal â helpu’r ardal a’r diwydiant i ffynnu. Y nod yw datblygu rhywbeth gwych i bawb ei fwynhau!”

I drefnu antur nesaf eich teulu yn atyniad arobryn Folly Farm, ewch i www.folly-farm.co.uk.

Gall ymwelwyr sydd wedi’u hysbrydoli i archwilio atyniadau Awdurdod y Parc fwynhau rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yr haf hwn. Yng Nghastell Caeriw, gall teuluoedd glywed straeon erchyll yn Hanesion Hyll neu fentro i antur ffantasi fyw yn The Storymaster’s Quests, lle mae’r gynulleidfa’n cymryd rhan dan arweiniad llais Tom Baker oddi ar Doctor Who.

Yng Nghastell Henllys, gall plant roi cynnig ar sgiliau hynafol yn Hud y Derwyddon, ac mae Oriel y Parc yn Nhyddewi yn cynnig taith gerdded bywyd gwyllt fin nos o’r enw Ystlumod Ysblennydd dan arweiniad Parcmon lleol.

Mae’r cydweithrediad hwn â Folly Farm yn helpu i ddangos rhai o’r ffyrdd y gall ymwelwyr fwynhau natur, hanes a hud Sir Benfro.

I archebu neu i gael gwybod am y digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i www.arfordirpenfro.cymru neu dilynwch Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diwedd

Capsiwn y llun:
Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda Gareth Morris, Swyddog Marchnata Folly Farm.