Oriel y Parc yn edrych ymlaen at haf o greadigrwydd arfordirol
Gall ymwelwyr ag Oriel y Parc edrych ymlaen at dymor o weithdai creadigol, straeon glan môr ac anturiaethau dychmygus wrth i Oriel y Parc: Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi gyhoeddi beth sydd ar y gweill yno dros yr haf.
Mae’r rhaglen eleni wedi ei hysbrydoli gan olygfeydd, synau a deunyddiau’r dirwedd leol. Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio’r dychymyg, chwarae a gweithgareddau darganfod ymarferol. Mae’n cynnig amrywiaeth o weithdai gydag artistiaid, sesiynau celf a chrefft arfordirol a theithiau cerdded tymhorol – y bwriad yw helpu ymwelwyr o bob oed i greu cysylltiad â’r arfordir mewn ffyrdd newydd.
A hithau’n wyliau’r haf, mae Oriel y Parc yn cynnal cyfres o weithdai crefft ‘Gwnewch ac Ewch’ sy’n addas ar gyfer plant dros 5 oed. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal ar ddyddiau Mercher. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys gweithdai creu printiau seianoteipiau a monoargraffu gyda phlât gel gyda Kate Evans, gweithdy gwehyddu arfordirol gyda Hannah Rounding, a gweithdy arlunio a gwneud marciau gyda Kate Freeman. Mae’r gweithdai, sydd wedi eu hysbrydoli gan yr arddangosfa yn Oriel y Parc ar hyn o bryd sef Môrwelion gan Garry Fabian, yn rhoi cyfle i ymwelwyr gysylltu â byd natur Sir Benfro mewn ffordd greadigol. Mae’r rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/digwyddiadau-yn-oriel-y-parc/gweithdai/.
Mae digon i fynd â bryd y rhai hynny sydd yn caru crefftwaith lleol. Bydd Oriel y Parc yn cynnal Ffeiriau Crefftau Llaw drwy’r haf (bob dydd Mawrth nes 26 Awst) a bydd y gerddi’n llawn stondinau crefft a chynnyrch lleol; bydd Marchnad Grefftau’r Haf yn cael ei chynnal ar 9 Awst hefyd.

Ar 27 a 28 Awst, bydd Oriel y Parc yn cynnal rhaglen arbennig o ddigwyddiadau wedi eu hysbrydoli gan adar y môr a bywyd gwyllt arfordirol Sir Benfro. Mae’n addo bod yn ddeuddydd delfrydol i deuluoedd sydd eisiau dysgu rhagor am y môr. Bydd sesiwn greadigol gyda Nicola Davies, y sŵolegydd a’r awdur, a’r athronydd Dr Beth Mackintosh yn gyfle i blant greu llyfr igam-ogam siâp morfil a sgrôl gwrando.
Y diwrnod canlynol bydd Greg Morgan, rheolwr safle’r RSPB, yn sgwrsio am fywydau dirgel yr Adar Drycin Manaw ac yna bydd yr artist Bron Jones yn adrodd stori ac yn dod â chaniadau iasoer yr adar drycin yn fyw.
Yn ogystal â rhaglen lawn o ddigwyddiadau dros yr haf, mae Oriel y Parc: Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn cynnal arddangosfeydd amrywiol ac mae’n gartref i siop anrhegion a chaffi sy’n gweini bwyd blasus. Mae’n fan cychwyn perffaith i grwydro’r Parc Cenedlaethol, ac mae staff gwybodus ar gael bob amser i roi awgrymiadau i’ch helpu i grwydro’r ardal gyfagos.
I weld manylion yr holl ddigwyddiadau ac i drefnu eich ymweliad, ewch i www.orielyparc.co.uk.