Oriel y Parc yn dathlu Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa gyda chasgliad arbennig Garry Fabian Miller

Posted On : 24/11/2025

Bydd Canolfan Ddarganfod Parc Cenedlaethol Oriel y Parc yn Nhyddewi yn ymuno ag atyniadau diwylliannol ledled y byd i ddathlu Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa ar 30 Tachwedd, gan wahodd ymwelwyr i ddod o hyd i anrhegion ystyrlon gan gynhyrchwyr lleol sy'n cefnogi'r celfyddydau.

Mae Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa wedi tyfu’n ddigwyddiad gwirioneddol ryngwladol, gyda mwy na 2,200 o amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth mewn 25 o wledydd yn annog pobl i siopa’n bwrpasol. Mae’n cynnig dewis ystyrlon arall yn lle rhuthr masnachol Dydd Gwener y Gwario, gan hyrwyddo creadigrwydd, diwylliant a chymuned.

Eleni, mae Oriel y Parc yn hoelio sylw ar ei chasgliad Garry Fabian Miller, sydd wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa fawr yr artist llwyddiannus, Môrwelion / The Sea Horizon, a agorodd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru. Mae’r arddangosfa yn olrhain pedwar degawd o ddiddordeb yr artist yn y man lle mae’r tir, y môr a’r dychymyg yn cyfarfod – o’i ffotograffau cynnar i’w waith ystafell dywyll diweddarach heb gamera.

Gall ymwelwyr bori drwy amrywiaeth o brintiau, llyfrau ac anrhegion Garry Fabian Miller sy’n adlewyrchu’r themâu a gaiff eu harchwilio yn yr arddangosfa, sef golau, tirwedd a’r gorwel. Mae pob pryniant yn cefnogi’r artist a gwaith y Parc Cenedlaethol.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Nod Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa yw dathlu gwerth mannau diwylliannol a’r cynhyrchwyr annibynnol sy’n gysylltiedig â nhw. Mae gwaith Garry Fabian Miller yn taro tant â’r lle hwn, ac mae’r siop yn ffordd i ymwelwyr fynd â darn o’r cysylltiad hwnnw adref gyda nhw. Mae pob eitem sy’n cael ei phrynu yn helpu i gynnal y gwaith creadigol ac amgylcheddol sy’n digwydd yma drwy gydol y flwyddyn”.

Bydd Oriel y Parc ar agor drwy gydol Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa, gan gynnig croeso cynnes i unrhyw un sy’n awyddus i gefnogi diwylliant lleol ar yr un pryd â dod o hyd i anrhegion pwrpasol. Mae arddangosfa Môrwelion yn parhau tan dymor y gwanwyn 2026 gyda mynediad am ddim.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.orielyparc.co.uk.