Mynediad am ddim i Felin Heli Caeriw i nodi Penwythnos Cenedlaethol y Melinau
I nodi Penwythnos Cenedlaethol y Melinau, bydd Melin Heli Caeriw yn cynnig mynediad am ddim ar ôl 3pm ddydd Sadwrn 10 Mai a dydd Sul 11 Mai. Bydd y digwyddiad yn gyfle i ymwelwyr grwydro unig felin heli Cymru a dysgu am ddylanwad pŵer y llanw ar hanes diwydiannol yr ardal.
Mae Penwythnos Cenedlaethol y Melinau yn ddathliad blynyddol o dreftadaeth melino’r Deyrnas Unedig, ac i nodi hynny, mae melinau hanesyddol ar hyd a lled y wlad yn agor eu drysau i’r cyhoedd. Mae’r digwyddiad yn rhoi sylw i’r adeiladau trawiadol hyn, yn ogystal â’r gwaith roedden nhw’n ei wneud mewn cymunedau am ganrifoedd.
Mae Melin Heli Caeriw yn un o’r pum melin heli sydd wedi eu hatgyweirio yn y Deyrnas Unedig. Daeth y gwaith i ben ar y safle ym 1937, ond mae’r holl beiriannau gwreiddiol yn dal yno, ac yn rhoi cyfle unigryw i bobl gael cipolwg ar y gorffennol. Mae adeilad cyfredol y felin yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif, ond mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu bod melin ar y safle ers o leiaf 1542. Yn dilyn cyfnod o ddirywiad, cafodd y felin ei hatgyweirio ym 1972 gan Ystâd Caeriw, gyda chefnogaeth gan Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, Cyngor Sir Benfro, a Chyngor Dosbarth Gwledig Penfro.
Mae’r bobl sy’n ymweld â’r felin yn cael cyfle i edrych ar arddangosfa ryngweithiol a sylwebaeth sain sy’n dangos sut mae dŵr wedi cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell egni gynaliadwy dros y canrifoedd.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw:
“Mae Melin Heli Caeriw yn enghraifft brin o dreftadaeth ddiwydiannol, ac yn dangos sut mae dŵr wedi cael ei ddefnyddio ar hyd y canrifoedd i roi pŵer i gymunedau. Penwythnos Cenedlaethol y Melinau yw’r amser perffaith i ddathlu’r hanes hwn a chroesawu ymwelwyr i’r Felin.”
Bydd mynediad am ddim i Felin Heli Caeriw rhwng 3pm a 4.30pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mynediad olaf am 4.30pm a bydd y Felin yn cau am 5pm. Mynediad am ddim i’r Felin yn unig, nid yw hyn yn cynnwys mynediad i’r Castell.
I gael gwybodaeth i ymwelwyr ac oriau agor, ewch i www.castellcaeriw.com.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael ar www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.
