Marchogion Normanaidd yn paratoi ar gyfer brwydr benwythnos gŵyl y banc yng Nghastell Caeriw
Bydd Castell Caeriw yn cael ei drawsnewid yn olygfa ganoloesol dros benwythnos gŵyl y banc, wrth i’r Penwythnos o Ryfelwyr ac Arfau wahodd ymwelwyr i gamu if yd rhyfela, traddodiad a dathliadau’r 12fed ganrif.
O ddydd Sadwrn 23 Awst i ddydd Llun 25 Awst, bydd Castell Caeriw yn croesawu Historia Normannis – un o brif grwpiau hanes byw’r DU. Bydd gwersyll canoloesol ar dir y Castell yn cynnwys arddangosiadau byw o ymladd, crefftau a bywyd bob dydd, gan adlewyrchu naws byddin ganoloesol ar orymdaith.
Ymhlith uchafbwyntiau’r penwythnos bydd hyfforddiant milisia am 11am, sioe ffasiwn ganoloesol am hanner dydd, seremoni arfogi marchog am 1pm, sesiwn Llys y Sir am 2pm, a thwrnamaint am 3pm. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cymryd rhan yn y gweithgaredd Rhoi Cynnig Ar Saethyddiaeth rhwng 11.30am a 3pm bob dydd.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Historia Normannis i Gastell Caeriw dros ŵyl y Banc. Mae’r Penwythnos o Ryfelwyr ac Arfau yn addo profiad bythgofiadwy, gan roi cyfle i ymwelwyr ymgolli ym myd synau, golygfeydd a straeon y 12fed ganrif.
“Boed chi’n cael eich denu gan sŵn cleddyfau, rhythmau bywyd y llys neu’r cyfle i roi cynnig ar eich sgiliau gyda bwa a saeth – mae’n ddiwrnod allan sy’n wych i’r teulu cyfan.”
Mae mynediad i’r digwyddiad wedi’i gynnwys gyda thocyn mynediad arferol i’r Castell. Bydd tâl bach yn berthnasol i rai gweithgareddau.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys amserlen lawn y penwythnos, ewch i www.castellcaeriw.com.
I ddarganfod digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ledled Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yr haf hwn, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.