Llywodraeth Cymru yn chwilio am ymgeiswyr i lenwi swyddi ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Posted On : 20/05/2025

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd unigolion i ymgeisio am dair swydd newydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Aelodau’r Awdurdod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o siapio cyfeiriad y parc, cyfrannu at benderfyniadau cynllunio a llywodraethu, a sicrhau bod dibenion statudol y parc yn cael eu cyflawni – sef diogelu’r dirwedd, hyrwyddo mwynhad i bawb, a chefnogi cymunedau lleol.

Yn y misoedd nesaf bydd tri o’r aelodau presennol, a benodwyd gan Weinidogion Cymreig, yn cyrraedd diwedd eu cyfnod, ac felly bydd llefydd gwag ar fwrdd yr Awdurdod. Bydd yr olynwyr yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru, a nhw hefyd sy’n goruchwylio’r broses benodi.  Mae pob swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd.

Er mwyn cefnogi darpar ymgeiswyr, bydd Awdurdod y Parc yn cynnal tair sesiwn galw heibio a fydd yn gyfle i’r rhai a ddaw yno ddysgu rhagor am y gwaith a gofyn cwestiynau:

  • Dydd Mawrth 20 Mai – Ystafell Garn Fach, Yr Hen Ysgol, Dinas, Trefdraeth SA42 0XB
  • Dydd Iau 22 Mai – Gwesty’r Giltar , 9 Esplanade, Dinbych-y-pysgod SA70 7DU
  • Dydd Llun 2 Mehefin – Ar-lein (manylion i’w gweld yma: https://www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus)

Mae rhagor o fanylion, a chyfarwyddiadau am sut i ymgeisio, i’w gweld yma https://www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

Ni fydd y swyddi hyn yn cael eu hysbysebu ar Webrecruit, gan fod y ceisiadau yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 4pm ar 12 Mehefin, 2025.

The exterior of PCNPA's Llanion Park HQ on a fine day