Llwyddiant Dwbl i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yng Ngwobrau Twf Busnes Gorllewin Cymru

Posted On : 08/04/2026

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn dathlu llwyddiant hanesyddol ar ôl ennill dwy wobr nodedig yng Ngwobrau Twf Busnes Gorllewin Cymru 2026, gan gipio’r Wobr Cyfrifoldeb Amgylcheddol a’r wobr Busnes y Flwyddyn gyffredinol.

Mae’r gwobrau’n cydnabod sefydliadau ar draws y rhanbarth sy’n dangos arloesi, effaith ac arweiniad rhagorol. I’r Ymddiriedolaeth, mae’r gydnabyddiaeth yn dangos ei hymrwymiad parhaus i ddiogelu a gwella tirweddau, bywyd gwyllt a chymunedau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae cyfrifoldeb amgylcheddol yn rhan hanfodol o waith yr Ymddiriedolaeth. Drwy fentrau fel Creu Mwy o Ddolydd, Gwyllt am Goetiroedd, a’r Adar a’r Gwenyn, mae’r elusen yn adfer cynefinoedd, yn cefnogi peillwyr, ac yn cryfhau rhwydweithiau ecolegol ar draws Sir Benfro. Mae’r prosiectau hyn nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth, ond hefyd yn helpu tirweddau i addasu i bwysau cynyddol y newid yn yr hinsawdd.

Ochr yn ochr â’i waith cadwraeth, mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod natur yn hygyrch ac o les i bawb. Mae prosiectau fel Gwreiddiau yn cynnig cyfleodd i blant gysylltu â’r awyr agored mewn ffordd ystyrlon, gan gefnogi llesiant, magu hyder, a meithrin perthynas ddyfnach â’r amgylchedd naturiol. Gan greu llwybrau cynhwysol at natur, mae’r Ymddiriedolaeth yn helpu mwy o bobl i fwynhau’r tirweddau o’u cwmpas, ac i ofalu amdanynt.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusennol Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Ry’n ni’n falch iawn o gipio’r gwobrau Cyfrifoldeb Amgylcheddol a Busnes y Flwyddyn. Mae’r gydnabyddiaeth yn arwydd o angerdd ac ymroddiad ein tîm, ein partneriaid, ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr sy’n gwneud ein gwaith yn bosib bob dydd.”

“Yn yr Ymddiriedolaeth, nid dim ond un rhan o’n gwaith yw cyfrifoldeb amgylcheddol – mae’n sylfaen i bopeth. O adfer cynefinoedd a chefnogi bywyd gwyllt i greu cyfleoedd i bobl gysylltu â natur, ry’n ni wedi ymrwymo i greu effaith gadarnhaol hirhoedlog ar draws y Parc Cenedlaethol. Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r ymdrech ar y cyd a’r effaith go iawn mae’n ei chael ar lawr gwlad.”

Mae’r gydnabyddiaeth yn garreg filltir bwysig i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, gan atgyfnerthu ei chenhadaeth i warchod y gorffennol, i ofalu am y presennol, ac i ysbrydoli’r dyfodol drwy gadwraeth ystyrlon a gweithredu cymunedol.