Llwybrau i Ddarganfod yn cynnig llwybr newydd at lesiant drwy fyd natur

Posted On : 23/09/2025

Mae prosiect newydd wedi ei lansio i helpu pobl ledled Sir Benfro i wella eu llesiant drwy dreulio amser yn yr awyr agored. Llwybrau i Ddarganfod yw’r bartneriaeth ddiweddaraf rhwng Mind Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Y bwriad yw adeiladu ar lwyddiant Gwreiddiau i Adferiad, menter oedd yn cefnogi pobl sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl drwy gynnal gweithgareddau ym myd natur. Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan fis Gorffennaf 2028, a bydd hyn yn ein galluogi i ehangu ar y cyfleoedd a gynigir ar draws y sir.

Dywedodd Sara Walters o Mind Sir Benfro: “Cyflawnon ni waith gwerth chweil fel rhan o’r prosiect Gwreiddiau i Adferiad ac roedd hi’n braf gweld y bobl a gafodd gefnogaeth yn elwa o’r prosiect. Rwyf i’n edrych ymlaen yn fawr at gam nesaf ein prosiect, wrth i ni fynd ati i ddatblygu gwasanaethau a fydd yn rhoi cefnogaeth angenrheidiol i bobl ac yn helpu grwpiau newydd i gymryd rhan ym myd natur.”

Bydd Llwybrau i Ddarganfod yn ehangu ar y gwaith rydym ni wedi ei wneud a bydd yn rhoi cefnogaeth wedi ei deilwra i ofalwyr di-dâl, gofalwyr ifanc, pobl ifanc, pobl â symudedd cyfyngedig a phobl sydd ag iechyd meddwl gwael. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys teithiau tywys, sesiynau celf a chrefft wedi’u hysbrydoli gan fyd natur, tasgau cadwraeth, garddio yn y gymuned, a chyfleoedd gwirfoddoli â chymorth. Byddwn ni’n cynnal gweithgareddau amgen dan do pan fydd y tywydd yn wael, ac yn darparu trafnidiaeth ar gyfer nifer o’r gweithgareddau fel ei bod yn haws i bobl gymryd rhan.

Mae Llwybrau i Ddarganfod yn brosiect sy’n cael ei arwain gan bobl. Bydd y cyfranogwyr yn ein helpu i siapio beth fydd yn digwydd nesaf, a bydd Mentoriaid y Prosiect yn cefnogi sesiynau ac yn defnyddio profiadau bywyd i ddylanwadu ar ddyluniad y rhaglen a’r ffordd mae’n cael ei darparu. Bydd staff a gwirfoddolwyr o Gwreiddiau i Adferiad yn defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth maen nhw wedi ei feithrin er mwyn cyflawni cam nesaf y gwaith, gan sicrhau ein bod yn manteisio ar ein cryfderau i dyfu’r prosiect ac i gadw mewn cysylltiad ag anghenion lleol.

Dywedodd Maisie Sherratt, Swyddog Gwreiddiau i Adferiad: “Mae gweithio ar Gwreiddiau i Adferiad wedi bod yn bleser, ac rwy’n gobeithio y bydd y prosiect newydd yn cael yr un ymateb gan y gymuned. Rwy’n ffodus iawn bod gen i swydd sy’n rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl newydd a mynd â nhw i lefydd newydd, a hynny wrth ddysgu sgiliau newydd iddynt a’u helpu i ddatblygu eu bywydau cymdeithasol. Mae’n amlwg bod angen cymorth ar ofalwyr o bob math, ac rwy’n gobeithio y gallwn ni ysgafnhau’r baich.”

I gael rhagor o wybodaeth, neu i drefnu i gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â:

Sara Walters – sara@pcmind.org.uk / 07943 186630

Maisie Sherratt – maisies@arfordirpenfro.org.uk / 07773 778205.