Lansio Rhaglen Partneriaeth Ewch i’r Awyr Agored newydd i ehangu cyfleoedd awyr agored hygyrch
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn falch o gyhoeddi lansiad y Rhaglen Partneriaeth Ewch i’r Awyr Agored – menter newydd sydd wedi’i chynllunio i wneud profiadau awyr agored yn hygyrch i bawb ledled Sir Benfro, gan greu model cynaliadwy i bartneriaid ei gefnogi ac i sicrhau ei dyfodol.
Cyflwynwyd y rhaglen yn swyddogol yn ystod Brecwast y Rhwydwaith Ewch i’r Awyr Agored a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Saundersfoot. Daeth y digwyddiad ag addysgwyr, cynrychiolwyr cymunedol a busnesau lleol at ei gilydd i ddysgu mwy a rhannu yng nghyffro’r cynllun arloesol hwn.
Gan adeiladu ar bron i 20 mlynedd o ddarparu cadeiriau olwyn glan môr ac offer pob tir, mae’r rhaglen yn parhau ag ymrwymiad hirsefydlog yr Ymddiriedolaeth i wneud yr awyr agored yn hygyrch i bawb. Nod y dull newydd hwn yw ariannu a chynnal profiadau cynhwysol yn yr awyr agored, gan gynnig amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd i bartneriaid gymryd rhan. Bydd partneriaid hefyd yn cael deunydd â brand newydd, sy’n cynnwys bathodyn y gallant ei arddangos i fynegi eu cefnogaeth a’u cyfranogiad.
Yn ystod y digwyddiad, bu’r rhai a oedd yn bresennol glywed gan y Tîm Addysg am sut mae offer newydd yn helpu pob myfyriwr i gymryd rhan mewn dysgu yn yr awyr agored; gan Blue Horizons am fanteision mynd i’r môr a chysylltu â natur; a gan y Tîm Awyr Agored, a roddodd gyfle i’r rhai hynny oedd yn cymryd rhan i brofi’r offer drostynt eu hunain. Cafwyd trafodaethau a fu tynnu sylw hefyd at effaith y rhaglen ar draws Sir Benfro, pa offer sydd ar gael ar hyn o bryd, a sut gellid ei datblygu ymhellach er budd cymunedau.
Mae’r Rhaglen Partneriaeth Awyr Agored yn cael ei chyflwyno yn 2026, gyda chynlluniau i’w hehangu i ardaloedd eraill o 2027 ymlaen. Gall partneriaid ymuno ar wahanol haenau yn dibynnu ar eu hanghenion a lefel eu hymgysylltiad, o fynediad sylfaenol at offer a chymorth, i becynnau gwell sy’n cynnwys hyfforddiant, cit pwrpasol, a chyfleoedd i rannu eu straeon.
Hoffai’r Ymddiriedolaeth ddiolch i’r holl westeiwyr, cefnogwyr, rhoddwyr a busnesau lleol sydd wedi helpu i wneud profiadau awyr agored yn bosibl dros y blynyddoedd, ac mae’n edrych ymlaen at eu croesawu i’r rhaglen newydd.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae gwella’r Rhaglen Partneriaeth Awyr Agored yn rhywbeth sy’n ein cyffroi ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n partneriaid i alluogi mwy o bobl i fwynhau’r awyr agored. Mae’r rhaglen hon yn gyfle gwych i adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi’i wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf a sicrhau bod y profiadau hyn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, ewch i: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/cefnogwch/ewich-i’r-awyr-agored.
Mae’r flwyddyn nesaf hefyd yn nodi 20 mlynedd ers i’r cadeiriau olwyn glan y môr a’r offer pob tir gael eu cyflwyno am y tro cyntaf, gan alluogi mwy o bobl nag erioed i fwynhau awyr agored Sir Benfro. Mae dathliad arbennig ar y gweill a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Mae’r Rhaglen Partneriaeth Awyr Agored yn gam beiddgar ymlaen o ran hyrwyddo profiadau cynhwysol yn yr awyr agored ar yr un pryd â sicrhau cynaliadwyedd hirdymor cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored ar draws y rhanbarth.
