Lansio prosiect newydd i warchod enwau lleoedd cudd Sir Benfro

Posted On : 12/02/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi lansio prosiect newydd i ddatgelu a diogelu enwau lleoedd hanesyddol y Parc Cenedlaethol – o gaeau sydd wedi mynd yn angof i lonydd nad oes fawr neb yn gwybod amdanynt.

Bydd y prosiect, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn casglu gwybodaeth gan bobl leol o gymunedau ar hyd a lled y Parc, ac yn ei chofnodi yn y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru.

Bydd cyfres o weithdai’n cael eu cynnal yn ystod 2026 i roi cyfle i drigolion rannu enwau sydd wedi cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall – gan gynnwys enwau caeau, llwybrau, adeiladau a lonydd.

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chasglu gan Dr James January-McCann, Swyddog Enwau Lleoedd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a’i hychwanegu at y Rhestr – gan helpu i ddiogelu’r wybodaeth hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan Sir Benfro dreftadaeth ieithyddol gyfoethog sydd â dylanwadau Cymraeg, Saesneg, Norwyeg a Fflemineg. Drwy gofnodi’r wybodaeth hon cyn iddi gael ei cholli, bydd y prosiect yn diogelu hanes lleol ac yn cefnogi tirfeddianwyr, cymunedau ac Awdurdod y Parc i reoli tiroedd a phrosiectau yn y dyfodol.

Dywedodd Tomos Jones, Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod y Parc: “Mae hwn yn brosiect arbennig sy’n grymuso cymunedau lleol i gyflwyno eu gwybodaeth am enwau lleoedd. Gall yr wybodaeth hon wella ein dealltwriaeth o ardal y Parc Cenedlaethol a’n helpu ni i ddatblygu prosiectau perthnasol.”

Ychwanegodd Dr James January McCann, Swyddog Enwau Lleoedd “o ystyried hanes ieithyddol cyfoethog Sir Benfro, mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod i ba raddau y mae’r dylanwadau hynny’n parhau hyd heddiw, ac i ddyfnhau gwybodaeth pobl am eu treftadaeth.

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Sir Benfro eleni, bydd y prosiect enwau lleoedd yn defnyddio’r brifwyl fel llwyfan i gyrraedd cynulleidfa ehangach – gan gynnwys cynnal sgwrs bwrpasol yn ystod yr wythnos, a fydd yn cael ei chefnogi a’i hyrwyddo gan dîm yr Eisteddfod.

Mae chwe gweithdy cymunedol wedi’u trefnu ar gyfer 2026 gyda’r nod o gynnal mwy yn y dyfodol. Bydd y gweithdy cyntaf yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas Tyddewi ddydd Mercher 18 Chwefror 2026. Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i alw heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm i rannu eu gwybodaeth neu i ddod i siarad â’r tîm. Bydd gweithdai dilynol yn cael eu hyrwyddo drwy gyfryngau cymdeithasol ac mewn cymunedau lleol.