Hydref hunllefus – Oriel y Parc dros hanner tymor
Mae Canolfan Ddarganfod Parc Cenedlaethol Oriel y Parc yn Nhyddewi yn galw ar yr holl wrachod, dewiniaid a chreaduriaid creadigol ifanc am wythnos o weithgareddau llawn hwyl i'r teulu yn ystod hanner tymor mis Hydref.
Rhwng dydd Sadwrn 18 Hydref a dydd Sul 2 Tachwedd, bydd y ganolfan yn cael ei thrawsnewid yn fwrlwm o weithdai ar thema Calan Gaeaf, sesiynau adrodd straeon a llwybrau tymhorol, sy’n berffaith ar gyfer anturiaethwyr ifanc sy’n awyddus i gymysgu ychydig o hud a lledrith â’u gwyliau ysgol.
Ar frig y rhestr o bethau i’w gwneud mae Llwybr Diod y Wrach, antur hunanarweiniol sy’n herio ymwelwyr i ddod o hyd i gynhwysion diodydd cudd sydd wedi’u gwasgaru ar draws cwrt, tŵr a choedwigoedd cyfagos y ganolfan. Ar gael bob dydd rhwng 9.30am a 4.30pm, mae’r llwybr yn costio £4 y plentyn ac mae’n addo mwy nag un syrpreis arswydus ar hyd y ffordd.
Ar ddiwrnodau dethol, mae’r Ystafell Ddarganfod yn dod yn hafan i greadigrwydd gyda chyfres o Weithdai Celf Ewch a Gwnewch. Gall egin artistiaid rhoi cynnig ar greu Torchau Hunllefus (dydd Sadwrn 18 Hydref), Masgiau Arswydus (dydd Sadwrn 25 Hydref), Penwisg Ystlumod Batinator (dydd Llun 27 Hydref) a Daliwr Haul Pwmpen disglair (dydd Mercher 29 Hydref). Mae pob sesiwn galw heibio yn costio £4 y plentyn. Mae’r amseroedd ar gael ar wefan Oriel y Parc.
Mae’r hud Calan Gaeaf yn parhau ddydd Mercher 29 Hydref gyda Dychryniadau Pentan a Byrbrydau Crasu, lle gall teuluoedd ddod at ei gilydd o amgylch y tân i dostio afalau, cyfnewid straeon arswydus, a chlywed straeon gwyllt gan geidwaid y Parc Cenedlaethol. Dewch mewn gwisgoedd Calan Gaeaf – fe wnawn ni gyfrannu’r afalau!
Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Hydref yw un o’r adegau mwyaf cyffrous o’r flwyddyn yn Oriel y Parc. Mae ein tîm wrth eu bodd yn creu profiadau hwyliog ac ymarferol sy’n annog teuluoedd i archwilio, chwerthin a chrefftio gyda’i gilydd. P’un a ydych chi’n chwilio am gynhwysion ar gyfer diodydd neu’n tostio afalau wrth y tân, mae rhywbeth hudolus am yr hydref yn y Parc Cenedlaethol.”
Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynllunio i fod yn eco-gyfeillgar ac yn addas ar gyfer amrywiaeth o oedrannau, ac nid oes angen archebu ymlaen llaw oni nodir yn wahanol.
I gael manylion llawn a’r wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.orielyparc.co.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.