Hwyl yr ŵyl yn dychwelyd i Oriel y Parc

Posted On : 20/11/2025

Mae Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi, yn paratoi i groesawu ymwelwyr i fwynhau eu rhaglen fywiog o ddigwyddiadau Nadoligaidd, arddangosfeydd creadigol, a digonedd o sypreisys tymhorol i bob oed.

Bydd Blwch Post Pegwn y Gogledd yn dychwelydd i’r Oriel ddydd Gwener 22 Tachwedd, ac yn aros yno tan ddydd Iau 19 Rhagfyr, gan roi cyfle i blant bostio eu rhestr at Siôn Corn. Bydd modd postio’r llythyrau yn y Ganolfan, ac yna bydd teuluoedd yn gallu dod yn ôl dri diwrnod wedyn i gasglu ateb personol o weithdy’r corachod. Bydd y blwch post ar agor bob dydd drwy dymor y Nadolig.

Bydd y dathliadau yn parhau ddydd Sadwrn 29 Tachwedd wrth i’r Farchnad Grefftau Nadolig gael ei chynnal rhwng 10am a 3pm. Dyma gyfle i ymwelwyr ddod o hyd i anrhegion sydd wedi’u gwneud â llaw a bwyd tymhorol gan gynhyrchwyr lleol, a hynny wrth fwynhau cerddoriaeth fyw a chael blas ar ddanteithion Nadoligaidd o gaffi The Brunch House. Bydd parcio am ddim drwy’r dydd, ac felly bydd y farchnad yn ddechrau bywiog a chroesawgar i dymor y Nadolig.

Yn y Ganolfan, bydd tair arddangosfa i’w gweld yn ystod misoedd y gaeaf, gan roi cyfle i bobl fwynhau creadigrwydd, myfyrio a chael ysbrydoliaeth.

Mae Pwll o Greigiau gan Rachel Allan (rhwng 8 Tachwedd a 6 Ionawr) yn cyflwyno casgliad trawiadol o emwaith arian wedi’i wneud â llaw, sydd wedi’i ysbrydoli gan weadau a thrysorau Arfordir Penfro. Mae darnau Rachel wedi eu hysbrydoli gan wymon, cerrig mân ac amonitau, ac yn cynnwys arian ecogyfeillgar ac arian wedi’i ailgylchu, yn ogystal â gemau pefriog sy’n adlewyrchu lliwiau’r môr a’r lan.

Yn y Tŵr, mae arddangosfa Twrch Trwyth Judith Leyland (rhwng 7 Tachwedd a 21 Rhagfyr) yn dod â’r baedd chwedlonol o’r Mabinogi yn fyw. Er ei fod yn cael ei drechu yn y pendraw, nid yw’r creadur yn cael ei ddinistrio – ac mae’r arddangosfa yn cyfleu’r symbol hwn o herfeiddiwch a chryfder mewn ffurf feiddgar a dychmygus.

Mae arddangosfa Mark Stanmore yn Ystafell Tyddewi (rhwng 14 Tachwedd ac 11 Ionawr) yn cynnwys cyfres o baentiadau o arfordir Penfro, sydd wedi eu hysbrydoli gan yr athroniaeth wabi-sabi Japaneaidd. Mae’r gwaith yn adlewyrchu harddwch amherffeithrwydd a newid, gan roi lle tawel i gysylltu â natur gyda chelf.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Mae’r rhaglen Nadolig eleni yn cynnwys popeth sy’n gwneud Oriel y Parc yn arbennig – talentau lleol, arddangosfeydd creadigol a thraddodiadau Nadoligaidd sy’n denu teuluoedd yn ôl bob blwyddyn. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu wynebau hen a newydd i’r oriel eleni.”

I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau’r Nadolig ac oriau agor y caffi drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr, ewch i www.orielyparc.co.uk.