Hwyl arswydus i’r teulu cyfan yng Nghastell a Melin Heli Caeriw dros hanner tymor mis Hydref
Mae Castell a Melin Heli Caeriw yn paratoi ar gyfer hanner tymor bythgofiadwy arall ym mis Hydref, gydag wythnos yn llawn anturiaethau Calan Gaeaf i'r teulu cyfan yn un o safleoedd hanesyddol mwyaf atmosfferig Sir Benfro.
Rhwng dydd Sadwrn 25 Hydref a dydd Sul 2 Tachwedd, bydd y Castell yn cynnal rhaglen lawn dop o straeon arswydus, llwybrau rhyngweithiol a theithiau cyffrous, gyda rhywbeth i wrachod, dewiniaid ac anturiaethwyr dewr o bob oed.
Mae Antur Llain Pwmpenni yn gwahodd ymwelwyr iau i grwydro tir y Castell i chwilio am gliwiau pwmpenni. Mae’r llwybr hwyliog hwn ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm, ac mae’n costio £2 i bob plentyn (ynghyd â phris tocyn mynediad safonol).
Yn dilyn galw mawr, mae’r Felin Felltigedig yn ôl er mwyn cynnig profiad brawychus yn y Felin Heli dywyll. Gydag addurniadau a rhyfeddodau iasol rownd pob cornel, nid yw hwn yn brofiad ar gyfer y gwangalon. Mae’r Felin Felltigedig ar agor bob dydd rhwng 11am a 5pm (mynediad olaf am 4.30pm). Mae’r profiad yn cael ei gynnwys am ddim gyda thocyn mynediad safonol, ac mae’n cael ei argymell ar gyfer plant 4 oed a hŷn.
Rhwng dydd Llun 27 Hydref a dydd Mercher 29 Hydref am 1pm, gall teuluoedd ymuno ag antur ffantasi newydd sbon gan Oliver McNeil, sef yr awdur poblogaidd sydd â’r ddawn o gipio dychymyg ei gynulleidfa. The Storymaster’s Tales: Castle of Blood – mae’r sioe hon yn gwahodd cyfranogwyr i reoli cwrs eu hantur mewn sioe ryngweithiol fyw, sy’n llawn creaduriaid, heriau a dewisiadau brawychus. Mae’r sioe yn addas ar gyfer plant 6 oed a hŷn, ac mae’r tocynnau’n costio £6 y pen (nid yw hyn yn cynnwys mynediad i’r Castell). Mae’n syniad da archebu ymlaen llaw yn www.storymasterstales.com/live.
Gall y rhai sy’n chwilio am gyffro arswydus ymuno â Thaith Galan Gaeaf Frawychus i’r teulu cyfan, rhwng dydd Mawrth 28 Hydref a dydd Gwener 31 Hydref, 4.30pm a 5.30pm. Mae’r daith dywys atmosfferig hon drwy’r Castell yn cynnwys golygfeydd rhyfedd a digwyddiadau dychrynllyd. Mae tocynnau yn costio £8.50 i oedolion a £6.50 i blant (5 oed a hŷn). Rhaid archebu lle ymlaen llaw yn www.castellcaeriw.com.
Ddydd Iau 30 Hydref a dydd Gwener 31 Hydref am 11am a 2pm, gall plant rhwng 4 ac 8 oed fynd ar antur hudolus ac ymarferol fel rhan o’r gweithdy Bwystfilod Ffantastig a sut i’w Hachub! Mae’r gweithdy hwn, sy’n para awr, yn cynnwys sesiwn stori, sesiwn celf a chrefft, a chreaduriaid chwedlonol. Mae’n costio £5 i bob plentyn, ond nid yw hyn yn cynnwys mynediad i’r Castell.
Bydd Ystafell De Nest ar agor drwy gydol yr wythnos, yn gweini danteithion tymhorol a lluniaeth cysurus – y ffordd berffaith i gadw’n dwym rhwng anturiaethau.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Hanner tymor mis Hydref yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yng Nghaeriw. Mae’r castell yn dod yn fyw gyda theuluoedd yn crwydro, yn chwerthin ac yn creu atgofion gydag ychydig o hud a lledrith Calan Gaeaf. P’un a ydych chi’n ddigon dewr ar gyfer y Felin Felltigedig, neu os byddai’n well gennych chi helfa bwmpenni yn yr heulwen, mae rhywbeth yma at ddant pawb.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.castellcaeriw.com.
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.