Gwnewch rywbeth hudolus yng Nghastell Caeriw y gaeaf hwn
Sebonau ffelt, addurniadau wedi'u gwneud â llaw, a chaligraffeg gyda naws canoloesol fydd yn hawlio'r llwyfan yng Nghastell Caeriw fis Tachwedd eleni, wrth i dymor newydd o weithdai ddod â chreadigrwydd Nadoligaidd i Ystafell De Nest.
Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i gynnig dihangfa heddychlon o brysurdeb bywyd; maent yn cynnwys diodydd poeth, amgylchedd hyfryd, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu i chi. Efallai y byddwch am ymuno er mwyn creu rhywbeth, neu i chwilio am anrheg wedi’i gwneud â llaw, mae pob gweithdy yn eich gwahodd chi i ymlacio ac i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Mae’r gyfres yn dechrau gyda Gweithdy Sebonau Ffelt, lle bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i ffeltio gwlân merino lliwgar ar sebon, er mwyn creu dau sebon gweadog â llaw. Mae’r gweithdy hwn yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 4 Tachwedd, rhwng 4.30pm a 6.30pm, ac mae’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n chwilio am anrhegion Nadolig meddylgar neu am bleser Nadoligaidd.
Wythnos yn ddiweddarach, ddydd Mawrth 11 Tachwedd, gall gwesteion deithio’n ôl mewn amser yn ystod y Gweithdy Caligraffeg – a gynhelir rhwng 4.30pm a 6.30pm. Bydd y rhai sy’n bresennol yn creu cwils o blu gŵydd, yn malu afalau derw i greu inc canoloesol, ac yn meistroli’r grefft o lythrennu â llaw, yn barod i ychwanegu cyffyrddiad personol a hanesyddol at eu cardiau Nadolig.
Yn y sesiwn olaf, mae creadigrwydd yn cwrdd â disgleirdeb y ‘Dolig: Gweithdy Nadoligaidd Ffeltio â Nodwyddau. Mae’r sesiwn hon, sydd wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 18 Tachwedd, rhwng 4.30pm a 6.30pm, yn cynnig cyfle i wneud addurniadau hyfryd â llaw – perffaith fel anrhegion neu i ychwanegu lliw at eich coeden Nadolig.
Mae’r gweithdai yn cael eu cynnal yn Ystafell De Nest yn yr Ardd Furiog, ac maent yn addas i blant 12 oed a hŷn. Mae pob gweithdy yn costio £20 y pen, ac yn cynnwys paned o de neu goffi. Bydd diodydd Nadoligaidd, a danteithion cartref tymhorol eraill, ar gael i’w prynu yn ystod y digwyddiad. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, ac nid oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae’r gweithdai hyn wedi dod yn draddodiad mor hyfryd – nid yn unig i ni, ond i’r bobl sy’n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae rhywbeth arbennig iawn am ddysgu sgil newydd, wedi’ch amgylchynu gan hanes a chreadigrwydd. Mae’n fath gwahanol o hud a lledrith, a dyma un o uchafbwyntiau’r tymor yma yng Nghaeriw.”
Ewch ati i ddewis eich gweithdy, i ddatgloi eich creadigrwydd, ac i archebu eich lle yn www.carewcastle.com, neu ar dudalen Facebook y Castell.