Gwneuthurwyr ffilmiau ifanc yn tynnu sylw at dreftadaeth arfordirol fregus Sir Benfro

Posted On : 08/10/2025

Fel rhan o brosiect cydweithredol rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a MOLA (Amgueddfa Archaeoleg Llundain), mae pobl ifanc o rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Sir Benfro wedi bod yn edrych ar y ffordd y mae newid hinsawdd yn peryglu ein treftadaeth arfordirol.

Bu i’r prosiect, Penderfyniadau Anodd: Peryglon yr Hinsawdd a Cholli Treftadaeth, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau drwy Gyfrif Cyflymu Effaith MOLA, ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2025. Cynhaliwyd wyth o weithdai undydd gyda phobl ifanc rhwng 16 a 20 oed sy’n rhan o raglen Futureworks. Roedd y prosiect yn gyfle da i helpu’r bobl ifanc hyn i feithrin sgiliau newydd fel recordio digidol, fideograffeg, ac adrodd stori a hynny wrth ymdrin â cholli treftadaeth arfordirol Sir Benfro.

Roedd y safleoedd a archwiliwyd yn cynnwys y gaer bentirol yng Nghaerfai, y fynwent, yr odyn a’r rhath yn Sain Ffraid a Blocws y Dwyrain yng Ngorllewin Angle. Cynhaliwyd sesiwn sgiliau i gyd-fynd â phob ymweliad, roedd y rhain yn cynnwys sesiwn defnyddio drôn, modelu 3D, sgriptio a golygu fideo. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan greu ffilmiau byrion dwyieithog oedd yn cynnwys eu safbwyntiau nhw ar newid hinsawdd, treftadaeth a hunaniaeth.

Dywedodd Kit Ackland, Archaeolegydd Digidol MOLA: “Mae pob math o safleoedd archaeolegol syfrdanol yn Arfordir Penfro, ond mae nifer o’r rhain mewn perygl o ganlyniad i’r ffaith bod lefel y môr yn codi a’r tir yn erydu. Mae’r prosiect hwn yn gofnod o’r hyn sydd yn y fantol – ond roedd hefyd yn gyfle i roi sgiliau i bobl ifanc gofnodi hynny yn eu lleisiau eu hunain ac i gymunedau gysylltu â’u treftadaeth mewn ffordd newydd.”

Bydd y fideos terfynol yn cael eu harddangos yn ystod y Diwrnod Archaeoleg ym mis Tachwedd, a bydd Kit Ackland (MOLA) a Rhowan Alleyne (Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) yn trafod beth yw dylanwad y prosiect.

Ategodd Tomos Jones, Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro: “Roedd gweithio gyda phobl ifanc Futureworks yn gyfle i gyrraedd pobl ifanc oedd heb ymweld â’r safleoedd hyn o’r blaen. Drwy gyfuno archaeoleg, gwyddor yr hinsawdd a chreadigrwydd digidol, mae’r bobl ifanc hyn wedi cael cyfle i wneud synnwyr o’r penderfyniadau anodd sy’n wynebu ein cymunedau arfordirol, a hynny wrth fagu hyder a meithrin siliau pwysig iawn. Mae’r ffilmiau hyn yn adnoddau defnyddiol a phwerus a allai gael eu defnyddio gan ysgolion, cymunedau, a llunwyr polisïau.”

Cafodd y prosiect ei gynnal gyda chefnogaeth gwasanaeth Futureworks Cyngor Sir Benfro, sef gwasanaeth sy’n rhoi sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) drwy Gyfrif Cyflymu Effaith MOLA (2022–2026).

Bydd Diwrnod Archaeoleg Arfordir Penfro yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 8 Tachwedd yng Ngholeg Sir Benfro. I weld y rhaglen gyfan ac i archebu tocynnau, ewch i: https://events.pembrokeshirecoast.wales/#calendrdigwyddiadau_115|24019