Gwahoddiad i fusnesau i gysylltu a dathlu dros Frecwast Busnes ‘Ewch i’r Awyr Agored’ yn Llanusyllt

Posted On : 31/10/2025

Mae busnesau lleol, arweinwyr cymunedol, a phartneriaid yn cael eu hannog i ddod ynghyd ar gyfer Brecwast Busnes Ewch i’r Awyr Agored, a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ar ddydd Gwener 7 Tachwedd 2025, o 8.30am tan 11.30am yn Neuadd Regency, Llanysullt.

Bydd y digwyddiad, sy’n rhad ac am ddim yn dathlu llwyddiant y cynllun Ewch i’r Awyr Agored, sy’n helpu pobl o bob oed a gallu gael mynediad at a mwynhau’r awyr agored, tra hefyd yn archwilio cyfleoedd ar gyfer ei ddyfodol hirdymor.

Bydd gwesteion yn mwynhau brecwast a rhwydweithio cyn clywed gan siaradwyr ysbrydoledig, gan gynnwys Tom Bean o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a fydd yn rhannu mewnwelediadau o brosiect Gwreiddiau, a Blue Horizons, a fydd yn dangos sut mae cydweithio lleol, offer arbenigol, a chefnogaeth tîm yn helpu mwy o bobl i gysylltu â natur, boed ar dir neu yn y môr.

Yn hwyrach yn y bore, bydd Swyddog Cyllido Abi Marriott yn datgelu Rhaglen Bartneriaeth newydd sbon Ewch i’r Awyr Agored, wedi’i chynllunio i roi cyfle i fusnesau lleol, ariannwyr, a grwpiau cymunedol chwarae rôl allweddol wrth ehangu mynediad cynhwysol at y tu allan ledled Sir Benfro.

Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda thaith gerdded fer ddewisol i Neuadd Coppet, lle gall gwesteion weld yr offer arbenigol ar gyfer pob tir yn cael ei ddefnyddio.

Wrth siarad cyn yr digwyddiad, dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae’r Brecwast Busnes Ewch i’r Awyr Agored yn canolbwyntio ar ddathlu’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd ac yn edrych ymlaen tuag at sut y gallwn wneud awyr agored wych Sir Benfro yn hygyrch i hyd yn oed mwy o bobl. Rydym yn gwahodd busnesau lleol a phartneriaid i fod yn rhan o’r bennod nesaf hon a gweld effaith anhygoel y cynllun Ewch i’r Awyr Agored yn uniongyrchol.”

Mae mynychu’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae archebu’n hanfodol.

I archebu eich lle, ewch i: https://forms.office.com/e/dxdLXbtnCv.

Am ragor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a’i gwaith, sy’n cynnwys cefnogi cadwraeth, cymuned a diwylliant ledled y Parc Cenedlaethol, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.