Groto Siôn Corn yn dychwelyd i Gastell Caeriw i greu profiad Nadoligaidd hudolus

Posted On : 29/10/2025

Bydd Castell Caeriw yn cynnal eu traddodiad Nadoligaidd eto eleni, wrth i Siôn Corn ymgartrefu yn yr atyniad eiconig yn Sir Benfro yn ystod y tri phenwythnos cyn y Nadolig.

Bydd y Groto yn cael ei leoli yn y Castell, ac yn agor bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 29 Tachwedd a 14 Rhagfyr, rhwng 10am a 4pm.  Bydd plant yn cael anrheg fel rhan o’u hymweliad, a bydd pob tocyn i’r Groto yn cynnwys mynediad am ddim i’r Castell yn ystod y dydd.

Bydd y Groto eleni yn fwy Nadoligaidd byth, bydd siocled poeth moethus a gwin cynnes ar gael yn Ystafell De Nest, a bydd yr addurniadau Nadolig i’w gweld ar hyd a lled y Castell.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:  “Mae Groto Siôn Corn yn draddodiad poblogaidd iawn yma, ac rydym ni’n falch iawn o allu croesawu teuluoedd yn ôl i’r Castell eto eleni.  Mae’r lleoliad hanesyddol yn lle perffaith i gael diwrnod Nadoligaidd i’r brenin. Cofiwch fod tocynnau i’r groto yn gwerthu allan yn gyflym fel arfer, felly archebwch eich lle yn gynnar fel nad ydych yn colli’r profiad arbennig hwn.”

Rhaid archebu lle ymlaen llaw, a gwnewch eich gorau i gyrraedd yn brydlon. Wedi’r cyfan, mae dyddiadur Siôn Corn yn brysur iawn ac mae angen iddo fynd yn ôl i Begwn y Gogledd erbyn y Nadolig!

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sydd â thocyn dilys. Mae tocynnau i oedolion a phlant ar gael ar-lein, ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw yn www.events.pembrokeshirecoast.wales.