Grantiau o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer prosiectau hinsawdd cymunedol
Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull ar gyfer COP30 ym Mrasil fis Tachwedd eleni i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithredu’n lleol drwy agor y rownd ddiweddaraf o geisiadau ar gyfer y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.
Mae’r Gronfa’n cynnig grantiau o hyd at £25,000 ar gyfer prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r cyffiniau, sy’n lleihau allyriadau carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r amrywiaeth eang o brosiectau y mae’r Gronfa yn eu cefnogi i’w gweld drwy edrych ar fuddiolwyr diweddar. Cafodd Southern Roots Organics (Awen Organics) yng Ngogledd Sir Benfro grant o £12,400 i osod paneli solar, gan sicrhau hunangynhaliaeth ynni o 100% o fewn yr wythnos gyntaf gan arbed tua 2.6 tunnell o CO₂e bob blwyddyn. Eisoes yn fferm sy’n atafaelu carbon net, fe alluogodd y prosiect gostyngiadau pellach o ran allyriadau wrth gefnogi eu cenhadaeth i dyfu cynnyrch organig o ansawdd uchel a modelu system fwyd leol iach a chynaliadwy.
Cafodd £21,470 ei roi i Labordy’r Cefnfor yn Wdig, sy’n gartref i elusen Ymddiriedolaeth y Môr Cymru, i osod system solar ffotofoltäig 12.6 kWp. Cwblhawyd y gwaith gosod ym mis Ionawr 2025, a disgwylir i’r system leihau allyriadau a chostau ynni yn sylweddol, gan alluogi’r elusen i ail-fuddsoddi arbedion mewn mentrau cymunedol a chadwraeth hanfodol.
Dywedodd Nadia Tomsa o Ymddiriedolaeth y Môr Cymru: “Er gwaethaf nifer o rwystrau, cwblhawyd prosiect ffotofoltäig Labordy’r Cefnfor diolch i gydweithio cryf a chefnogaeth gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Rydyn ni’n falch o ddangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu manteision ynni glân â’n cymuned.”
Mae’r gosodiad hefyd yn enghraifft amlwg o ynni adnewyddadwy ar waith, gan ymgysylltu â grwpiau lleol gan gynnwys y Caffi Trwsio a’r Clwb Bioleg Forol Ieuenctid.
Cafodd Cilrath Acre, yr elusen y tu ôl i Fanc Bwyd Sir Benfro, gymorth y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i osod toiled compost, gan wella cyfforddusrwydd, hylendid a hygyrchedd i wirfoddolwyr ac ymwelwyr. Mae’r prosiect yn gwella cynaliadwyedd y safle ar yr un pryd â gwella llesiant cymunedol a chreu cyfleoedd i wirfoddolwyr ymgysylltu â natur ac arferion tir adfywiol.
Gall ymgeiswyr wneud cais ar gyfer prosiectau sy’n sicrhau canlyniadau lleihau carbon mesuradwy. Gall prosiectau gynnwys gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy megis paneli solar ar adeiladau cymunedol; mentrau i hyrwyddo lleihau allyriadau trafnidiaeth megis pwyntiau gwefru trydan; cyfleusterau cymunedol sy’n lleihau gwastraff megis ffynhonnau dŵr; neu fentrau lleihau carbon eraill yn y gymuned.
Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cynnwys arian a ddyrannwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chronfa Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Sylwer, mae’r gronfa hon ar gyfer gwariant cyfalaf yn unig.
I gael gwybodaeth am bwy sy’n gymwys, sut mae gwneud cais, ac am y ffurflen gais, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/awdurdod-y-parc-cenedlaethol/cronfa-datblygu-cynaliadwy/ neu cysylltwch â sdf@pembrokeshirecoast.org.uk.
Y dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais yw diwedd y dydd ar ddydd Gwener 5 Rhagfyr 2025.