Etifeddiaeth Sycamore Gap yn bwrw gwraidd yng Nghastell Caeriw
Plannwyd glasbren a dyfwyd o goeden wreiddiol y Sycamore Gap yng Nghastell Caeriw ddydd Iau 2 Ebrill, wrth i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ymuno â’r 14 Parc Cenedlaethol arall yn y DU i roi bywyd newydd i un o symbolau naturiol mwyaf pwerus y wlad.
Mae’r goeden ifanc yn hanu o’r sycamorwydden wreiddiol a safodd wrth Wal Hadrian am dros 150 o flynyddoedd. Cafodd toriadau a hadau eu hachub ar ôl i’r goeden gael ei thorri yn 2023, a chawsant eu meithrin gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei Chanolfan Cadwraeth Planhigion. Bellach, mae’r toriadau hyn wedi’u dosbarthu i bob Parc Cenedlaethol yn y DU, gan greu llinyn byw sy’n cysylltu tirweddau mwyaf gwarchodedig y genedl.
Yn bresennol yn y seremoni blannu oedd Cadeirydd Awdurdod y Parc, Dr Madeleine Havard, a’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Claire George, ynghyd ag Aelod Awdurdod y Parc a Chynghorydd Sir lleol, Vanessa Thomas. Hefyd yn bresennol oedd y Prif Weithredwr, Tegryn Jones, a’r Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth, James Parkin, ynghyd â phlant lleol.
Tynnodd y seremoni blannu sylw at y cyfrifoldeb rhanedig o ofalu am fannau arbennig a throsglwyddo’r etifeddiaeth honno i genedlaethau’r dyfodol.
Meddai Dr Madeleine Havard: “Roedd coeden y Sycamore Gap yn symbol grymus o’n cysylltiad â byd natur a threftadaeth. Er nad oes modd amnewid y tirnod a gollwyd, mae plannu’r glasbren hwn yng Nghastell Caeriw yn sicrhau bod ei hetifeddiaeth yn tyfu yma yn Sir Benfro. Mae’n nodyn atgoffa byw o’n rôl fel gwarchodwyr y tirweddau hyn ac o’n hymrwymiad i’r cenedlaethau a fydd yn eu mwynhau yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae Parciau Cenedlaethol yn dirweddau gweithredol sy’n seiliedig ar bartneriaeth a chydweithio. Dewiswyd y safle yng Nghastell Caeriw i adlewyrchu hanes cyfoethog yr ardal a’r gwaith parhaus i’w gwarchod ar gyfer y dyfodol.
Bydd pob un o’r 15 glasbren o dan ofal timau lleol, ac yn sefyll fel symbol o wydnwch ac o rym parhaus byd natur ym mannau mwyaf trysoredig y DU.