Enwi Sanna Duthie yn Llysgennad i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro

Posted On : 15/09/2025

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi cyhoeddi mai Sanna Duthie, y rhedwr rasys eithafol, fydd ei Llysgennad diweddaraf.

Mae Sanna yn rhan o’r Harrier Pro Trail Team ac mae hi eisoes wedi cael dylanwad rhyfeddol yn ystod 2025 drwy ei heriau sydd wir yn profi ei gwydnwch. Yn gynharach eleni, fe osododd Amser Cyflymaf Hysbys newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Penfro, gan gwblhau’r 186 milltir mewn dim ond 48 awr, 23 munud a 49 eiliad. Fel rhan o hynny, cododd dros £3,000 i’r Ymddiriedolaeth, gan gefnogi prosiectau cadwraeth ac ymgysylltu hanfodol ar draws y Parc Cenedlaethol.

Yn ei rôl fel Llysgennad bydd Sanna yn parhau i hyrwyddo gwaith yr Ymddiriedolaeth, sy’n ariannu prosiectau sy’n gwarchod bywyd gwyllt, yn gofalu am gynefinoedd, yn gwarchod treftadaeth, ac yn ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusen Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Sanna fel Llysgennad. Mae ei hangerdd dros Arfordir Penfro yn amlwg ym mhopeth mae hi’n ei wneud, o’i pherfformiadau llwyddiannus i’w hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o pam mae’r dirwedd hon mor arbennig. Bydd cefnogaeth Sanna yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl a sicrhau mwy o adnoddau i warchod bywyd gwyllt, treftadaeth ac arfordir unigryw’r Parc ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd Sanna Duthie: “Mae cael bod yn Llysgennad yn teimlo fel gwireddu breuddwyd. Mae hi’n anrhydedd cael sefyll dros achos rydw i wir yn credu ynddo: gwarchod, dathlu a rhannu’r arfordir unigryw hwn â chenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n gobeithio bod fy nhaith yn dangos, pan fydd angerdd a phwrpas yn dod at ei gilydd, bod hyd yn oed y rhediadau hiraf yn werth pob cam.

“Mae Arfordir Penfro wedi rhoi cymaint o harddwch, heddwch a chymhelliant i mi – o glogwyni garw i gildraethau cudd – mae’n lle sy’n fy atgoffa pa mor arbennig a bregus yw llwybr ein harfordir. Dyna pam wnes i ddewis rhedeg i godi arian hollbwysig i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.

“Mae rhedeg bob amser wedi golygu mwy na medalau i mi. Fel rhedwr rasys eithafol, rydw i wedi gwthio fy hun drwy rai o’r heriau corfforol a meddyliol anoddaf, ond yr hyn sy’n fy ysbrydoli fwyaf yw gwybod y gall pob cam rydw i’n ei gymryd wneud gwahaniaeth a chodi ymwybyddiaeth o lwybr yr arfordir er mwyn iddo aros ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae rôl newydd Sanna fel Llysgennad yn dilyn blwyddyn bwysig iddi hi’n bersonol ac yn broffesiynol, sy’n dangos ei dygnwch rhyfeddol a’i hymroddiad i roi’n ôl i’r tirweddau sy’n ei hysbrydoli.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn gweithio i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol drwy ariannu prosiectau sy’n gwarchod ei fywyd gwyllt, ei dreftadaeth a’i dirweddau, ar yr un pryd â helpu pobl i ddysgu am fyd natur a chysylltu â byd natur.

Mae rhagor o wybodaeth yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/