Dygnwch epig ar y sgrin: Sanna a’i her redeg gyflymaf erioed yn dod i Abergwaun
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a Kelp a Fern yn gwahodd cynulleidfaoedd i noson ysbrydoledig o ddygnwch, cymuned a harddwch gwyllt yr arfordir yn Theatr Gwaun Abergwaun ddydd Gwener 28 Tachwedd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys dangos rhaglen ddogfen newydd sy’n cofnodi her anhygoel Sanna Duthie, y rhedwr rasys eithafol, sef rhedeg ar hyd Llwybr Arfordir Penfro sy’n 186 milltir o hyd. Cwblhaodd yr her mewn dim ond 48 awr, 23 munud a 49 eiliad anhygoel.
Mae’r ffilm, a gafodd ei ffilmio a’i chyfarwyddo gan Martin, yn dilyn taith Sanna wrth iddi wthio terfynau dygnwch dynol yn erbyn cefndir dramatig arfordir Sir Benfro. Mae’n adrodd stori nid yn unig am benderfyniad yr athletwr, ond hefyd am gysylltiad dwfn â natur a’r tirweddau sy’n ei hysbrydoli.
Ar ôl y dangosiad, bydd Sanna yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb fyw, gan roi cyfle i’r gynulleidfa glywed yn uniongyrchol am yr heriau, y llwyddiannau a’r eiliadau o ysbrydoliaeth a brofodd ar hyd y ffordd. Gellir cyflwyno cwestiynau ymlaen llaw drwy anfon e-bost at abim@pembrokeshirecoast.org.uk erbyn 14 Tachwedd.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusen Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae llwyddiant anhygoel Sanna yn dangos gwir ysbryd Arfordir Penfro, ei harddwch, ei gadernid a’i rym i ysbrydoli. Mae ei stori’n adlewyrchu cryfder a phenderfyniad rhywun sydd nid yn unig yn caru’r dirwedd ond sydd wedi ymrwymo i’w gwarchod. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r noson arbennig hon sy’n dathlu ei thaith.”
Bydd y noson yn dechrau am 7pm gyda chyflwyniad byr gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a’r gwneuthurwr ffilmiau Martin, cyn dangosiad y ffilm nodwedd am 7.15pm. Bydd y sesiwn holi ac ateb gyda Sanna yn dilyn o 8.45pm ymlaen.
Mae tocynnau’n costio £8, gyda’r holl elw’n cefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, sy’n ariannu prosiectau cadwraeth, treftadaeth ac ymgysylltu ar draws y Parc Cenedlaethol. Bydd y drysau’n agor am 6.30pm a bydd y bar ar gael gydol y noson.
Mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn ddathliad o ddygnwch, cymuned ac arfordir gwyllt Sir Benfro, tirwedd sy’n parhau i ysbrydoli rhedwyr, anturiaethwyr a phobl sy’n mwynhau natur fel ei gilydd.
Gellir archebu tocynnau ar-lein yn www.theatrgwaun.com/production/sannas-record-breaking-run.