Dweud eich dweud ynglŷn â dyfodol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Posted On : 27/01/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd trigolion, busnesau a rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cynnar ar ddogfennau allweddol a fydd yn helpu i siapio Cynllun Datblygu Lleol 3 (CDLl3). Bydd yr ymgynghoriad yn agor ddydd Llun 26 Ionawr 2026 ac yn para tan 5pm ddydd Llun 23 Mawrth 2026.

Bydd Cynllun Datblygu Lleol 3 yn llywio sut mae’r Parc Cenedlaethol yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, gan ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch cynllunio, cynaliadwyedd, cymunedau, yr amgylchedd a newid hinsawdd. Yn ystod y cam cynnar hwn, mae’r Awdurdod yn awyddus i glywed barn bobl ar ba brif faterion y dylai’r Cynllun fynd i’r afael â nhw, gan helpu i siapio cyfeiriad y Cynllun ar gyfer y dyfodol o’r cychwyn cyntaf.

Dyma’r dogfennau sy’n destun ymgynghoriad:

  • Arfarniad o Gynaliadwyedd sy’n ymgorffori Adroddiad Cwmpasu’r Asesiad Amgylcheddol Strategol, gan gynnwys gwybodaeth gefndirol am gynlluniau, polisïau a llinellau sylfaen amgylcheddol perthnasol
  • Papur Drafft ar Faterion, Gweledigaeth ac Amcanion, sy’n nodi’r prif heriau a’r weledigaeth hirdymor bosibl ar gyfer y Parc Cenedlaethol
  • Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol 2 (Ebrill 2024 – Mawrth 2025)

 

Bydd digwyddiad ymgysylltu ar-lein yn cael ei gynnal nos Lun 9 Chwefror, 7pm–8.30pm, i roi cyfle i bobl ddysgu mwy am y dogfennau ac i ofyn cwestiynau. Cynhelir y digwyddiad dros Microsoft Teams.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno dod i’r digwyddiad gofrestru drwy anfon e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk. Gellir darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gais os gofynnir am hynny erbyn dydd Llun 2 Chwefror.

Bydd holl ddogfennau’r ymgynghoriad ar gael i’w gweld ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae modd cael gafael arnynt ar gyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd hefyd, a gellir darparu copïau papur am ffi.

Gellir cyflwyno sylwadau ar-lein drwy holiadur yr ymgynghoriad, dros e-bost, neu’n ysgrifenedig i’r Tîm Polisi Strategol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu cydnabod a’u cyhoeddi, a bydd adborth yn cael ei ystyried wrth i’r Awdurdod baratoi camau nesaf Cynllun Datblygu Lleol 3.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu cysylltwch â’r Tîm Polisi Strategol yn devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ar 01646 624800.