Gwahodd tirfeddianwyr a datblygwyr i helpu i siapio dyfodol Arfordir Penfro

Posted On : 22/01/2026

Mae tirfeddianwyr, datblygwyr a grwpiau cymunedol yn cael eu gwahodd i helpu i siapio dyfodol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wrth i'r Awdurdod ddechrau gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl 3).

Bydd y Cynllun yn llywio pa fath o ddatblygiad sy’n gallu digwydd – ac ymhle – ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol rhwng 2025 a 2040. Fel rhan o’r broses, mae’r Awdurdod wedi lansio Cais am Safleoedd Ymgeisiol, a fydd ar agor rhwng 26 Ionawr a 27 Ebrill 2026.

Dyma gyfle i bobl enwebu darnau penodol o dir y maen nhw’n credu dylid eu hystyried yn y Cynllun – naill ai i’w datblygu neu i’w gwarchod. Gall y tir fod at ddefnydd tai (gan gynnwys tai fforddiadwy), safleoedd cyflogaeth, mannau at ddibenion masnachol neu adwerthu, prosiectau ynni adnewyddadwy, seilwaith gwyrdd a chyfleusterau hamdden.

Bydd y safleoedd a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu hasesu gan ddefnyddio methodoleg fanwl sy’n ystyried polisi cynllunio cenedlaethol, dynodiadau amgylcheddol, a dichonoldeb. Bydd y safleoedd cryfaf yn cael eu rhoi ar y rhestr fer i’w cynnwys o bosibl yn y Cynllun Adneuo, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2028.

Er mwyn cael ei ystyried, rhaid i safle gael ei gyflwyno drwy’r Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol, sydd ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/galwad-am-safleoedd-posib-cdli-3/. Mae angen llenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob safle, ac anogir ymgeiswyr i ddarparu tystiolaeth ategol – yn enwedig mewn ardaloedd y mae parthau llifogydd, dynodiadau natur neu gyfyngiadau hysbys eraill yn effeithio arnynt. Mae map cyfyngiadau rhyngweithiol a nodiadau cyfarwyddyd manwl hefyd ar gael ar-lein.

Rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 5pm ddydd Llun 27 Ebrill 2026, ac ni ellir eu trin yn gyfrinachol.

Bydd sesiwn wybodaeth ar-lein ar gyfer y rhai sydd wedi cynnig safleoedd ddydd Mawrth 4 Chwefror am 2pm. I gofrestru, anfonwch e-bost at devplans@arfordirpenfro.org.uk. Rhowch wybod i’r tîm erbyn 28 Ionawr os ydych chi’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y sesiwn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Polisi Strategol drwy anfon e-bost at devplans@arfordirpenfro.org.uk neu ffonio 01646 624800.