Digwyddiadau’r Parc Cenedlaethol yn datgelu rhyfeddodau awyr y nos yn Sir Benfro

Posted On : 04/08/2025

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd pobl i fentro y tu hwnt i oriau golau dydd ym mis Awst, gyda chyfres o ddigwyddiadau sy'n datgelu ochr wyllt y Parc ar ôl iddi dywyllu.

O ystlumod yn gwibio i mewn ac allan o gloestrau Tyddewi, i sêr yn codi dros Faenorbŷr, a galaethau’n datguddio eu hunain y tu mewn i gromen yng Nghaeriw – mae pob digwyddiad yn cynnig cipolwg gwahanol ar beth sy’n ystwyrian yn y Parc wrth  i oleuni’r dydd bylu.

Ymysg yr uchafbwyntiau mae taith gerdded fin nos drwy Dyddewi i chwilio am ystlumod ddydd Iau 14 Awst, lle gall ymwelwyr ymuno â Pharcmon y Parc Cenedlaethol i archwilio lonydd y ddinas a thir y Gadeirlan gan ddefnyddio synwyryddion llaw i olrhain y rhywogaethau nosol gwarchodedig hyn.

Ddydd Sul 24 Awst, bydd Hostel Ieuenctid Maenorbŷr yn cynnal noson atmosfferig o syllu ar y sêr, gyda Chymdeithas Seryddiaeth Preseli yn arwain sgyrsiau byr a sesiynau seryddiaeth ymarferol ac yn edrych yn fanylach ar yr offer y tu ôl i’r telesgop. Bydd y noson hefyd yn cynnwys adrodd straeon sy’n deillio o chwedlau awyr yr haf, ac os deil y tywydd, sesiwn dywysedig o dan y sêr.

Bydd Castell Caeriw yn cynnal dau ddigwyddiad ddydd Mercher 27 Awst. Bydd sioeau planetariwm eglur iawn yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd a gyda’r nos, gan gynnig cipolwg ymdrochol ar sêr, cytserau a straeon am awyr y nos. Yn ddiweddarach, bydd taith gerdded i chwilio am ystlumod dan arweiniad tywysydd arbenigol yn rhoi cyfle arbennig i ymwelwyr archwilio tir y Castell ar ôl iddi dywyllu, pan fydd y safle ar gau i’r cyhoedd.

Bydd Oriel y Parc yn cynnal y digwyddiad olaf ddydd Iau 28 Awst – diwrnod llawn o ddathlu awyr dywyll Sir Benfro, a fydd yn rhedeg o fore gwyn tan nos. Bydd y diwrnod yn cynnwys craffu ar yr haul, sgyrsiau byw, sesiynau creadigol a gweithgareddau galw heibio ar draws y safle. Wrth iddi nosi, bydd ymwelwyr yn gallu ymuno â thaith dywys i chwilio am ystlumod (rhaid archebu lle ymlaen llaw), cyn dod â’r diwrnod i ben gyda sesiwn o syllu ar y sêr dan arweiniad Cymdeithas Seryddiaeth Preseli – os bydd y tywydd yn caniatáu.

Mae’r digwyddiadau hyn yn wahoddiad prin i ddarganfod awyr y nos yn Sir Benfro – a’r bywyd gwyllt a’r straeon sy’n dod yn fyw oddi tanynt. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amseroedd a manylion archebu, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/o-gwmpas-y-parc-3/.

A starry sky over Manorbier beach, with the Milky Way visible