Digwyddiad archeolegol i’r teulu cyfan yng Nghastell Caeriw fis Awst

Posted On : 30/07/2025

Yr haf hwn, bydd ymwelwyr â Chastell Caeriw yn cael cyfle unigryw i ddysgu rhagor am hanes cyfoethog Sir Benfro mewn digwyddiad o’r enw Datgelu Hanes: Sir Benfro’r Oes a Fu a gynhelir ddydd Llun 4 Awst.

Bydd y digwyddiad yn dod ag arteffactau a chasgliadau ynghyd, yn ogystal ag arbenigwyr o bob rhan o’r sir, i ddangos sut y mae archaeoleg wedi ein helpu ni i ddatgelu hanes Sir Benfro dros amser. Gyda gweithgareddau, gemau ac arddangosfeydd ymarferol, mae’r digwyddiad yn cynnig rhywbeth at ddant pawb sydd â diddordeb yn y gorffennol – boed chi’n frwd dros hanes neu eisiau gwybod beth sy’n cuddio yn y tir o dan eich traed.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar dir y Castell drwy’r dydd, a bydd y rhain yn cynnwys arddangosfeydd byw ac archeolegol, heriau canoloesol a chrefftau traddodiadol. Bydd sgyrsiau arbenigol gan haneswyr yn rhoi cyfle i ni ddysgu rhagor am y gorffennol, a bydd cyfle hefyd i ymwelwyr ifanc gymryd rhan mewn archwiliadau archeolegol, mynd i ysgol farchogion, a rhoi cynnig ar saethyddiaeth a saethu gyda ffon a sling!

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Nod y digwyddiad yw dod â hanes yn fyw – boed hynny drwy weld arteffactau, siarad â phobl sy’n eu hastudio neu roi cynnig ar sgiliau a gweithgareddau traddodiadol. Dyma gyfle i ddysgu am hanes Sir Benfro mewn ffordd ymarferol a diddorol, yn un o safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig yr ardal.”

Bydd Datgelu Hanes: Sir Benfro’r Oes a Fu yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Llun 4 Awst. Codir tâl mynediad safonol. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac i gael gwybod am ddigwyddiadau eraill sy’n digwydd yng Nghastell Caeriw dros yr haf, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/digwyddiadau-castell-caeriw.

Capsiwn: Bydd Datgelu Hanes: Sir Benfro’r Oes a Fu yn dangos arteffactau, arddangosiadau byw a gweithdai archaeoleg ar dir Castell Caeriw