Dewch i fwynhau Goleuo – byd o hud yng Nghastell Caeriw dros y Nadolig
Mae Castell Caeriw yn falch o wahodd teuluoedd ac ymwelwyr o bob oed i fwynhau Goleuo, ei ddigwyddiad Goleuadau Nadolig blynyddol – bob nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul rhwng 28 Tachwedd a 14 Rhagfyr o 4.30pm tan 7.30pm.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu i fyd o hud Nadoligaidd, wrth i’r Castell gael ei drawsnewid ar gyfer yr ŵyl gyda goleuadau disglair, arddangosfeydd tymhorol, ac awyrgylch hudolus i ddifyrru gwesteion o bob oed.
Eleni mae Goleuo yn cyflwyno arddangosfeydd atmosfferig newydd sbon ar gyfer 2025, gan ddod â rhyfeddodau lu i’r Castell. Gall plant gymryd rhan yn Helfa’r Dyn Eira, drwy ddilyn cliwiau sydd wedi’u cuddio o amgylch y Castell i gael anrheg arbennig. Bydd corau a grwpiau cerddoriaeth lleol yn perfformio bob penwythnos yn y Neuadd Fach, felly cewch fwynhau alawon Nadoligaidd drwy gydol y noson.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae Goleuo bellach yn un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng Nghastell Caeriw, ac rydyn ni’n falch iawn o groesawu teuluoedd yn ôl eleni. Gydag arddangosfeydd newydd, cerddoriaeth a gweithgareddau i blant, mae Goleuo 2025 yn argoeli i fod yn brofiad gwirioneddol hudolus i bawb.”
Am ei fod mor boblogaidd, rhaid i bob ymwelydd archebu tocynnau ar-lein ymlaen llaw. Mae tocynnau gyda’r nos yn costio £3.50 i oedolion a £2.50 i blant 4-16 oed. Mae mynediad am ddim i ddeiliaid tocynnau blwyddyn, preswylwyr plwyf Caeriw, defnyddwyr cadeiriau olwyn a’u gofalwyr, ond mae’n rhaid archebu tocynnau am ddim ar-lein hefyd, a dangos prawf o gymhwysedd wrth gyrraedd.
Bydd Siôn Corn yn ei Groto hudolus yn y Castell ar ddyddiau Sadwrn a Sul rhwng 29 Tachwedd a 14 Rhagfyr, o 10am tan 4pm. Mae tocynnau’n costio £8 y plentyn, sy’n cynnwys anrheg a mynediad i’r Castell yn ystod y dydd. Rhaid i bob oedolyn sy’n dod gyda phlentyn i’r Groto brynu tocyn dilys i’r Castell hefyd. Mae’r Groto yn gwbl hygyrch. Nid yw’r tocynnau ar gyfer y Groto yn cynnwys mynediad i’r digwyddiad Goleuo gyda’r nos.
Bydd Ystafell De Nest yn aros ar agor yn ystod Goleuo, ac yn gweini detholiad blasus o luniaeth Nadoligaidd. I gael y manylion llawn, amserlenni’r perfformiadau byw, a manylion archebu, ewch i www.castellcaeriw.com.