Dewch i ddarganfod y goruwchnaturiol yng Nghastell Caeriw dros Galan Gaeaf, os ydych chi’n ddigon dewr…

Posted On : 15/10/2025

Dros Galan Gaeaf, bydd Castell Caeriw yn agor ei gatiau ar ôl iddi dywyllu am noson iasol o ddarganfod, wrth i’r arbenigwyr paranormal, Science Beyond the Grave, arwain taith i archwilio un o'r cestyll mwyaf arswydus yng Nghymru.

Gyda chanrifoedd o ddirgelwch o fewn waliau’r castell, mae Caeriw wedi bod yn gysylltiedig ers tro byd â gweld ysbrydion, digwyddiadau anesboniadwy, a ffenomena rhyfedd. Nawr mae ymwelwyr yn cael eu gwahodd i grwydro’r Castell ar ôl oriau cau, a chymryd rhan mewn archwiliad unigryw i ganfod beth a allai fod yn llechu yn ei neuaddau tywyll, du.

Bydd y gwesteion yn cael eu tywys drwy’r Castell gan archwilwyr profiadol, a fydd yn defnyddio cymysgedd o dechnegau modern a dulliau traddodiadol – fel byrddau Ouija, bywiogi’r bwrdd (table tipping), a symud gwydr. Bydd cyfleoedd hefyd i dreulio amser ar eich pen eich hun yn rhai o ystafelloedd mwyaf atmosfferig y Castell – cyfle prin i brofi ei awyrgylch hunllefus honedig drosoch eich hun.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae Caeriw wedi ysbrydoli straeon arswyd ers canrifoedd, ac mae ein digwyddiadau goruwchnaturiol bob amser yn boblogaidd iawn. Eleni, ceir cymysgedd bythgofiadwy o wyddoniaeth arloesol a hen draddodiadau, gan roi cyfle i ymwelwyr ddarganfod dirgelion y castell mewn ffordd gwbl unigryw.”

Cynhelir y digwyddiad nos Wener 31 Hydref rhwng 6pm a 10pm. Mae tocynnau’n costio £40 y pen ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Bydd lluniaeth ar gael, a chynghorir ymwelwyr i wisgo dillad cynnes sy’n dal dŵr, ac i ddod â thortsh gyda nhw. Bydd y digwyddiad yn mynd rhagddo mewn tywydd gwlyb, ac ni cheir ad-daliad am docynnau. Am resymau diogelwch, nid yw’r profiad yn cael ei argymell ar gyfer menywod beichiog.

I archebu lle yn y digwyddiad Calan Gaeaf Goruwchnaturiol – ac i gael gwybod beth arall sydd ar y gweill yng Nghastell Caeriw dros yr hydref – ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.