Daw hanes yn fyw yr hanner tymor hwn yng Nghastell Caeriw a Chastell Henllys

Posted On : 19/05/2025

Bydd Castell Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys yn cynnal rhaglen fywiog o ddigwyddiadau dros hanner tymor mis Mai, ac yn rhoi cyfle i deuluoedd brofi hanes ar waith ar draws dau o safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Sir Benfro.

O sŵn ymladd milwyr Rhufeinig i lansiad magnel ganoloesol enfawr, bydd gweithgareddau’r wythnos yn rhychwantu’r oesoedd ac yn cynnwys popeth, o adrodd straeon ac ymladd â chlefyddau, i helfeydd trysor a chrefftau perlysiaidd.

Dros ŵyl y banc, o ddydd Sul 25 i ddydd Mawrth 27 Mai, bydd Bowlore: Chwedlau Bwa a Llafn yn dychwelyd gyda’i gyfuniad nodedig o ymladd â chleddyfau, arddangosfeydd saethyddiaeth a hanes ymarferol. Gall ymwelwyr gymryd rhan yn Saethyddaeth i Bawb, ymuno ag Ysgol y Cleddyf, a chael cyfle i ddal arfau canoloesol go iawn. Mae’r tâl mynediad arferol yn berthnasol, gyda ffi fach arian parod ar gyfer rhai gweithgareddau.

I’r rhai sy’n chwilio am rywbeth ychydig fwy heddychlon, mae Hwrê i Berlysiau! yn cynnig awr bersawrus yn ardd y Castell ar ddydd Sadwrn 24 a dydd Mercher 28 Mai, ac ar ddydd Sul 1 Mehefin. Gall ymwelwyr archwilio’r gwelyau perlysiau cyn casglu cynhwysion i wneud past dannedd, te melis a nepgamp draddodiadol. Mae’r sesiynau’n dechrau am 2.30pm ac yn rhad ac am ddim gyda’r tâl mynediad arferol.

Mae diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan wedi’i gynllunio ar gyfer dydd Iau 29 Mai, gyda gweithgareddau drwy’r dydd. Mae’r bore’n dechrau gyda Hanesion Hyll am 11am – sgwrs ryngweithiol llawn manylion ffiaidd a straeon dychrynllyd am fywyd mewn castell. Am 1.30pm, mae’r Daith Dywys o amgylch y Castell i Deuluoedd yn cynnig cipolwg ysgafn ar sut roedd pobl yn byw mewn cestyll go iawn. Am 2.30pm, bydd y Fagnel Fawr yn cael ei lansio, gan ddangos grym noeth rhyfela dan warchae yn yr Oesoedd Canoloesol. Wrth i’r nos ddisgyn, bydd y diwrnod yn dod i ben gyda Thaith Ystlumod arbennig, sy’n cynnig cyfle prin i archwilio’r Castell ar ôl iddi dywyllu a dysgu mwy am y rhywogaethau gwarchodedig sy’n llochesu yn ei furiau.

Bydd yr wythnos yn dod i ben ar nodyn hudolus gyda The Storymaster’s Quests: Castell Antur, sy’n cael ei chynnal am 1pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn 31 Mai. Wedi’i greu a’i berfformio gan yr awdur rhyngweithiol poblogaidd Oliver McNeil, ac yn cynnwys llais Tom Baker, mae’r profiad ffantasi rhyngweithiol hwn yn gwahodd y gynulleidfa i siapio canlyniad y stori. Pris y tocynnau yw £6 y pen a gellir eu harchebu yn www.storymasterstales.com/live. Mae’r tâl mynediad arferol yn berthnasol.

I gwblhau’r ymweliad, bydd Ystafell De Nest yng Nghastell Caeriw ar agor bob dydd, ac yn gweini ciniawau ysgafn, cacennau cartref a choffi organig.

Yn y cyfamser, ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, mae’r sylw’n troi at oresgyniad hollol wahanol. Ar ddydd Sul 25 a dydd Llun 26, bydd milwyr Rhufeinig o Legio VIII Augusta MGV yn gorymdeithio i’r pentref, yn ffres o’u goresgyniad o Fôn ac yn barod i gwblhau ei meddiannaeth o Gymru. Mae’r digwyddiad yn rhedeg o 10am tan 5pm ac nid oes angen archebu. Pris mynediad yw £12 i oedolion, £10 i blant ac £39 am docyn teulu (2+2 neu 1+3). Mae pob gweithgaredd wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.

O ddydd Mawrth i ddydd Iau, bydd Castell Henllys yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i blant, gan gynnwys crefftau traddodiadol, gemau’r Oes Haearn, ac, ar rai dyddiau penodol, Hud y Derwyddon – profiad ymarferol wedi’i ysbrydoli gan draddodiadau hynafol y derwyddon, lle gall plant, am dâl ychwanegol uwchben y pris mynediad arferol, danio tanau, pobi bara dros ludw, ac addurno’u hwynebau â phaent naturiol. Argymhellir archebu ymlaen llaw ar-lein.

Gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal ar y ddau safle drwy gydol yr wythnos, mae’n rhaid archebu rhai digwyddiadau ymlaen llaw. Mae’r rhain yn cynnwys y Daith Ystlumod, Hud y Derwyddon, a The Storymaster’s Quests. Mae pob gweithgaredd arall wedi’i gynnwys gyda’r mynediad neu ar gael i ymuno ar y diwrnod, yn dibynnu ar le.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bob digwyddiad ar www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Characters in medieval costume standing in a row outside Carew Castle