Dathlwch y cynhaeaf afalau ar Ddiwrnod Gwasgu Afalau Castell Caeriw

Posted On : 26/09/2025

Yr hydref hwn, mae Castell Caeriw yn gwahodd cymunedau lleol i gymryd rhan mewn digwyddiad gwasgu afalau i droi’r afalau sydd dros ben ganddynt yn sudd ffres a blasus.

Bydd Diwrnod Gwasgu Afalau yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 4 Hydref rhwng 10am a 2pm, gan gynnig cyfle perffaith i fwynhau rhoddion y tymor yng nghyffiniau godidog Castell Caeriw – safle sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd tȋm gwasgu afalau wrth law i arwain ymwelwyr drwy’r broses, ga neu helpu i droi eu hafalau eu hunain yn wobr felys a boddhaol. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw’ch afalau, a photel i fynd â’ch sudd adref.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae ‘na rywbeth hyfryd o syml am y Diwrnod Gwasgu, sydd wastad yn dod â phobl ynghyd. Boed gennych fasged o afalau o’r ardd neu dim ond eisiau gweld y wasg ar waith, mae’n bleser pur gweld y ffrwyth yn troi’n rhywbeth ffres a blasus. Mae’n ffordd hyfryd o ddathlu’r tymor ac i fwynhau ychydig o oriau yn y Castell.”

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond nid yw’n cynnwys mynediad i’r Castell nac i’r Felin Heli – bydd tocynnau ar werth ar y diwrnod i’r rhai sydd am fynd i mewn i archwilio.

Bydd Ystafell De Nest ar agor drwy gydol y digwyddiad, yn gweini diodydd poeth ac oer, cacennau cartref a chinio ysgafn – ffordd berffaith o orffen eich ymweliad neu gymryd hoe rhwng sesiynau gwasgu.

Darganfyddwch beth arall sydd ymlaen yn y Castell y tymor hwn yn www.castellcaeriw.com.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ledled Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.