Dathlu adferiad natur drwy brosiect Cysylltu Natur 25×25
Roedd dathliad yng Nghwm Gwaun ddydd Sadwrn 24 Ionawr i nodi holl lwyddiannau prosiect Cysylltu Natur 25×25 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd yn gyfle i’r gwirfoddolwyr, y ffermwyr a’r staff sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o adfer natur yng ngogledd Sir Benfro i ddod at ei gilydd. Cafodd y prosiect ar raddfa tirwedd ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy’n cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth. Nod y rhaglen yw cryfhau cysylltedd a chadernid ecolegol drwy adfer cynefinoedd ar raddfa fawr.
Cafodd pawb oedd yn y digwyddiad glywed am yr holl waith cadwraeth amrywiol a gyflawnwyd yng ngogledd y Parc fel rhan o’r prosiect. Mae’r gweithgarwch hwn yn cynnwys gwaith ymarferol i adfer pori ar borfeydd Rhos er lles Glöyn Byw Brith y Gors a Mursen Las Penfro, gwaith arbenigol i warchod Cennau prin, gwaith gwirfoddol i fonitro’r Fran Goesgoch, y Pathew a Llygoden yr ŷd, gwarchod safleoedd gaeafgysgu’r Ystlum Pedol Mwyaf, a rhoi camau gweithredu wedi’u targedau ar waith i fynd i’r afael â’r rhywogaethau goresgynnol sy’n bygwth safleoedd pwysig.
Mae gwirfoddolwyr, ffermwyr, rheolwyr tir a chontractwyr wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y prosiect hwn, gan ddefnyddio gwybodaeth leol, sgiliau ymarferol ac ymrwymiad hirdymor parhaus i ofalu am dirweddau a bywyd gwyllt unigryw Sir Benfro.
Dywedodd Mary Chadwick, Swyddog Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae Cysylltu Natur 25×25 wedi dangos beth sy’n bosibl pan fo ffermwyr, gwirfoddolwyr ac arbenigwyr cadwraeth yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni nod cyffredin. Mae ymroddiad pawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect, drwy fonitro rhai o’r rhywogaethau mwyaf anodd eu dal ac adfer a gwarchod cynefinoedd, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyd natur y Parc Cenedlaethol.”
Er bod prosiect Cysylltu Natur 25×25 yn dod i ben, bydd y gwaith pwysig y mae wedi’i gefnogi yn parhau. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiannau a chadw’r momentwm i fynd ar gyfer cam nesaf y gwaith o adfer natur dan brosiect NNF4 Cysylltiadau Naturiol, er mwyn sicrhau bod cynefinoedd yn parhau i gael eu gwarchod a’u gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.