Darganfod yr Heol Aur: taith dywys a straeon am dreftadaeth ym Mryniau’r Preseli
Mae preswylwyr ac ymwelwyr yn cael gwahoddiad i glywed am straeon un o dirweddau hynafol mwyaf diddorol Cymru yn nigwyddiad arbennig Darganfod yr Heol Aur, sy’n digwydd ar 18 Ebrill yn Nhafarn Sinc.
Bydd y prynhawn yn dechrau gyda thaith dywys dwy awr o hyd ar hyd Bryniau godidog y Preseli dan arweiniad Tomos Jones, Archaeolegydd Cymunedol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Byddwch yn cael cyfle i archwilio treftadaeth archaeolegol gyfoethog yr ardal a dysgu rhagor am hanes yr Heol Aur, llwybr cynhanesyddol y credir ei fod wedi cael ei ddefnyddio am filoedd o flynyddoedd i gysylltu safleoedd defodol a chymunedau ar draws y dirwedd.
Ar ôl y daith gerdded, byddwch yn dychwelyd i Dafarn Sinc am sesiwn holi ac ateb anffurfiol gyda Tomos, a bydd cyfle i feddwl am y dirwedd, dysgu rhagor am y straeon, a pharhau â’r sgwrs mewn lleoliad hamddenol.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusen Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Yr Heol Aur yw un o lwybrau hynafol mwyaf eiconig Sir Benfro, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu pobl i greu cysylltiadau dyfnach â’r dirwedd o’u cwmpas. Drwy gefnogi profiadau sy’n dathlu ein treftadaeth, rydym ni hefyd yn codi arian hanfodol i warchod y mannau arbennig hyn sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn unigryw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Jennifer Wheeler, Sylfaenydd Golden Road Gin: “Am gyfle gwych i ddysgu rhagor am Fryniau Preseli a’r Heol Aur. Mae cymaint o natur a hanes i’w ddarganfod, ac mae’n braf cael gwneud hynny gydag arbenigwr go iawn. Rydym ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth ar y gwaith anhygoel y mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn ei wneud i helpu i warchod ein treftadaeth a’n byd natur. Rydym ni’n edrych ymlaen at y digwyddiad hwn, a byddwn yn cynnal digwyddiad blasu jin ar ôl y daith gerdded a’r sgwrs.”
Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Golden Road Gin, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Jen a Phil am eu cefnogaeth hael. Mae’r cwmni’n rhoi 10 ceiniog o bob potel sy’n cael ei gwerthu ar-lein i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, gan helpu i dalu am brosiectau cadwraeth a threftadaeth yn y Parc Cenedlaethol.
Bydd cinio ar gael i’w brynu ar y diwrnod.
Bydd digwyddiad Darganfod yr Heol Aur yn digwydd ddydd Sadwrn 18 Ebrill yn Nhafarn Sinc, Rosebush. Mae tocynnau’n £15 a gellir eu harchebu ar https://pembrokeshirecoast.enthuse.com/DiscoveringtheGoldenRoad#!/
I gael gwybodaeth am hygyrchedd, cysylltwch ag Abi Marriott: abim@arfordirpenfro.org.uk.