Darganfod y pathew ym Mhentre Ifan

Posted On : 03/11/2025

Mae prosiect monitro newydd ym Mhentre Ifan yng Ngogledd Sir Benfro wedi datgelu arwyddion o’r Pathew yn y coetir sydd wedi'i adfer yn y warchodfa.

Bu rhai o wirfoddolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd wedi cael hyfforddiant fel rhan o brosiect Cysylltu Natur 25×25, yn treulio’r haf yn defnyddio twneli ôl troed arbenigol i ganfod arwyddion o’r Pathew (Muscardinus avellanarius). Cafodd y dull ei ddatblygu gan The People’s Trust for Endangered Species, ac mae’n defnyddio padiau inc diogel mewn twneli plastig i ganfod olion traed unigryw’r Pathew, sydd yr un siâp â sleisen o bitsa.

Gosodwyd y twneli ym mis Gorffennaf 2025 yn dilyn archwiliadau blychau nythu oedd wedi canfod tystiolaeth gyfyngedig o’r Pathew ar ochr ddwyreiniol y warchodfa. Yn ystod yr haf a dechrau’r hydref, daeth y gwirfoddolwyr o hyd i olion traed y pathew yn dros hanner y twneli – ac roedd arwyddion bod yr anifeiliaid yn dod yn fwy bywiog ac yn crwydro ymhellach wrth i’r tymor fynd rhagddo.

Mae’r Pathew yn rhywogaeth sy’n cael ei gwarchod yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig, mae hi wedi ei rhestru fel rhywogaeth Agored i Niwed ar Restr Goch Cymdeithas y Mamaliaid, ac mae’n ddarostyngedig i’r ddeddfwriaeth bioamrywiaeth a chadwraeth cynefinoedd. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod lleihad o 70% wedi bod yn y boblogaeth ers 2000, sy’n gwneud darganfyddiadau lleol fel hyn yn fwy arwyddocaol byth.

Dywedodd Mary Chadwick, Swyddog Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r canfyddiadau hyn yn gam mawr ymlaen wrth i ni geisio deall sut mae’r Pathew yn defnyddio’r coetir ym Mhentre Ifan. Roedd y twneli ôl-troed yn ffordd o fonitro’r rhywogaeth heb darfu arnynt, a bydd y canlyniadau yn ein helpu ni i gynnal gwaith cadwraethol mwy effeithiol yn y dyfodol. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y Parc Cenedlaethol fel hafan ddiogel i rywogaethau sy’n diflannu o rannau helaeth o’r Deyrnas Unedig – ac yn dangos y gall bywyd gwyllt ddychwelyd pan fydd cynefinoedd yn cael eu hadfer.”

Mae’r darganfyddiadau hyn yn ychwanegu at yr awgrym bod poblogaeth o’r Pathew ym Mhentre Ifan, a bydd y canlyniadau yn ein helpu i lywio’r ffordd mae’r Awdurdod yn rheoli’r safle. Yn fuan wedi i’r prosiect ddod i ben daethpwyd o hyd i Bathew benywaidd mewn blwch nythu gerllaw – dyma’r awgrym cryfaf eto bod y rhywogaeth yn dychwelyd yn dawel bach i’r rhan hon o’r Parc Cenedlaethol.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect Cysylltu Natur 25×25 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.