Darganfod rhyfeddodau archaeolegol y Parc Cenedlaethol

Cyhoeddwyd : 14/08/2020

Mae cyfle i ddysgu rhagor am nodweddion archaeolegol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eich cartref eich hun yn cael ei gynnig.

Bydd y digwyddiad rhithiol rhad ac am ddim yn cael ei gynnal ar 26 Awst 2020, a bydd yn canolbwyntio ar y ffordd y mae diwylliant dynol wedi siapio’r tirlun a welwn ni heddiw. .

Gyda hanes o bobl yn byw yn yr ardal yn ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd, mae’r Parc Cenedlaethol yn llawer mwy na noddfa i fywyd gwyllt.

Dan arweiniad yr Archaeolegydd Cymunedol Tomos Ll. Jones, bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad byr i archaeoleg a map rhithiol yn tynnu sylw at faint a gwasgariad nodweddion archaeolegol ledled y Parc Cenedlaethol.

Bydd henebion archaeolegol amlwg fel siambrau claddu a chestyll yn cael eu cynnwys, yn ogystal â nodweddion mwy cynnil fel carneddau a chloddweithiau a allai gael eu diystyru fel rhannau o’r dirwedd naturiol.

Bydd cyfle i archwilio olion coetir hynafol a aeth dan y dŵr ar hyd yr arfordir ac archwilio trysorau diwylliannol cudd, gan gynnwys ffiniau traddodiadol a’r rhaniad rhwng yr ucheldir a’r tir isel.

Daw’r digwyddiad i ben gyda sesiwn holi ac ateb.

Pentre I

Dywedodd yr Archaeolegydd Cymunedol Tomos Ll. Jones:

“Mae sesiwn fel hyn yn bwysig o ran tynnu sylw at y graddau y mae treftadaeth ddiwylliannol wedi gwreiddio o fewn tirwedd y Parc Cenedlaethol. Y gwirionedd yw bod pobl wedi siapio’r lle a welwn ni heddiw, a dyma ganlyniad miloedd o flynyddoedd o hanes. Rwy’n gobeithio y bydd y rhai a fydd yn bresennol yn cael golwg werthfawr ar sut mae modd darllen y dirwedd archaeolegol.”

Disgwylir i’r digwyddiad bara oddeutu awr, a gellir archebu lle ar-lein yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Atgoffwn y rhai sydd â diddordeb yng ngorffennol pell y sir y bydd Diwrnod Archaeoleg, ein digwyddiad blynyddol ym mis Tachwedd, yn cael ei gynnal ar-lein eleni. Bydd manylion yn cael eu rhyddhau yn nes at y dyddiad.