Cynllun symudedd awyr agored yn dathlu 20 mlynedd o chwalu rhwystrau

Posted On : 28/10/2026

Daeth partneriaid, cefnogwyr a gwirfoddolwyr ynghyd yng Nghastell Caeriw ddydd Mercher 21 Hydref i ddathlu 20 mlynedd o wneud y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch i bobl sydd â symudedd cyfyngedig.

Ers 2006, mae Ewch i’r Awyr Agored, cynllun sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi darparu offer arbenigol i helpu pobl sydd â symudedd cyfyngedig i archwilio traethau a lleoliadau awyr agored eraill a allai fod yn anodd eu cyrraedd fel arall.

Mae’r cynllun yn darparu cadeiriau olwyn Glân Môr ac offer symudedd sy’n addas ar gyfer pob tir am ddim i bobl mewn lleoliadau ledled Penfro, ac mae busnesau lleol a sefydliadau cymunedol yn helpu i sicrhau bod yr offer ar gael. Yn 2025 yn unig, cafodd yr offer eu defnyddio dros 900 o weithiau, gan roi cyfle gwerthfawr i bobl fwynhau’r arfordir gyda theulu a ffrindiau, ac ailymweld â’u hoff leoedd a darganfod rhai newydd.

Wrth annerch gwesteion yn y digwyddiad, bu i Dr Madeleine Havard gydnabod cyfraniad yr holl unigolion, busnesau a sefydliadau sydd wedi cefnogi’r cynllun ers ei sefydlu.

Bu i un o ddefnyddwyr rheolaidd y gwasanaeth egluro sut y mae’r cynllun wedi rhoi cyfle iddi ail-afael ar fywyd oedd hi’n meddwl oedd wedi llithro ymhell o’i gafael. Mae gallu mynd at y môr ac ardaloedd gwyrdd yn rhoi rheswm iddi godi yn y bore, ac mae cael cyfle unwaith eto i fwynhau diwrnodau allan gyda theulu a ffrindiau wedi ei helpu i adennill ei hannibyniaeth.

Dywedodd Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant yr Awdurdod: “Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld y gwahaniaeth y mae’r offer wedi’i wneud i fywydau pobl. Maent yn helpu plant i gymryd rhan mewn diwrnodau chwaraeon, galluogi pobl i fynd i angladdau teuluol a rhoi mynediad i bobl at brofiadau a fyddai y tu hwnt i’w cyrraedd fel arall.

“Roedd y dathliad hwn hefyd yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud y cynllun yn bosibl. Mae ymrwymiad y gwirfoddolwyr a’r busnesau sy’n gofalu am yr offer, yn ogystal â’r sefydliadau sydd wedi cefnogi datblygiad y cynllun, wedi helpu cannoedd o bobl i fwynhau treulio amser yn awyr agored godidog Sir Benfro.”

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn helpu i sicrhau dyfodol y cynllun drwy Raglen Partneriaeth Ewch i’r Awyr Agored, sy’n annog busnesau a sefydliadau i gyfrannu at offer newydd, costau cynnal a chadw a thrafnidiaeth er mwyn parhau â’n darpariaeth o brofiadau hygyrch yn yr awyr agored.

Wrth i’r galw am offer barhau, mae’r Awdurdod yn gobeithio adeiladu ar lwyddiannau’r cynllun, gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael cyfle i brofi arfordir a chefn gwlad Sir Benfro yn y blynyddoedd i ddod.

I gael rhagor o wybodaeth am Ewch i’r Awyr Agored, gan gynnwys argaeledd offer a threfniadau archebu, ewch i: www.arfordirpenfro.cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i fusnesau a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi’r cynllun drwy Raglen Partneriaeth Ewch i’r Awyr Agored: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/cefnogwch/get-outdoors/.