Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael cydnabyddiaeth am gefnogi gofalwr di-dâl

Posted On : 19/11/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ennill Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr fel cydnabyddiaeth o holl waith yr awdurdod yn adnabod ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl.

Mae’r wobr, sy’n cael ei chyflwyno drwy gynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn cydnabod sefydliadau sy’n helpu gofalwyr di-dâl i gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth.

Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cymorth hanfodol i aelodau o’r teulu, ffrindiau ac anwyliaid y mae salwch, anabledd, anghenion iechyd meddwl neu gyflyrau sy’n gysylltiedig ag oedran yn effeithio arnynt. Yn aml, nid yw eu cyfrifoldebau yn cael eu cydnabod, a gallant gael effaith sylweddol ar eu hiechyd, eu llesiant a’u bywydau gwaith.

Mae’r Awdurdod wedi bod yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau gofalwyr di-dâl ymysg staff ac ar draws ei holl wasanaethau, gan helpu cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd i sylwi eu bod yn ofalwyr a chael gwybod ble i droi am gymorth.

Aeth Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant yr Awdurdod, i’r seremoni wobrwyo ddydd Mawrth 27 Hydref, a oedd yn gyfle i ddod â sefydliadau o bob rhan o ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiannau ac i rannu arferion da.

Dywedodd: “Rydyn ni’n falch o dderbyn y wobr hon, ac yn ddiolchgar i Pennie Muir a’r tîm Buddsoddwyr mewn Gofal sy’n rhan o Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru am ein cefnogi ni.

“Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cymunedau, ac yn aml yn cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu ac yn ysgwyddo cyfrifoldebau sylweddol eu hunain hefyd. Gall gofalu effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg mewn bywyd, ac efallai na fydd llawer o bobl yn sylwi eu bod yn ofalwyr a bod cymorth ar gael.

“Rydyn ni eisiau creu amgylchedd lle gall ein cydweithwyr deimlo’n gyfforddus yn trafod eu cyfrifoldebau gofalu, lle mae staff yn deall yr heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu, a lle gellir cyfeirio aelodau o’r cyhoedd at y cymorth sydd eu hangen arnynt.

“Mae ennill y wobr Efydd yn garreg filltir enfawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn.”

Mae’r Awdurdod hefyd yn cynnig gostyngiadau i ofalwyr yn atyniadau’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys yng Nghastell Caeriw a Chastell Henllys.

Gan adeiladu ar y wobr Efydd, bydd yr Awdurdod yn parhau i ddatblygu ei ymwybyddiaeth a’i dealltwriaeth o gyfrifoldebau gofalwyr di-dâl gan helpu i sicrhau bod gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a’u cefnogi.

I gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn Sir Benfro, ewch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/carers-information neu Cymorth i Ofalwyr Gorllewin Cymru: https://carerssupportwestwales.org.