Ymddiriedolaeth Elusennol yn ennill Gwobr Croeso am wella mynediad i gefn gwlad Sir Benfro

Posted On : 05/11/2026

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi ennill y Wobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro 2026, gan gydnabod ei gwaith i helpu mwy o bobl i fwynhau arfordir a chefn gwlad Sir Benfro.

Cyflwynwyd y wobr, sy’n cael ei noddi gan ReallyPro, yng Ngholeg Sir Benfro ddydd Iau 29 Hydref, gydag Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn derbyn y wobr gan Amanda Short o ReallyPro a Colin Jackson CBE.

Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei chydnabod am ei chyfraniad at Ewch i’r Awyr Agored, cynllun symudedd awyr agored Awdurdod y Parc, a oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed yn gynharach ym mis Hydref.

Ers 2006, mae’r cynllun wedi darparu cadeiriau olwyn y traeth ac offer symudedd sy’n addas ar gyfer pob tir mewn lleoliadau ledled Sir Benfro, gan helpu pobl sydd â symudedd cyfyngedig i fwynhau traethau a mannau awyr agored eraill a allai fod yn anodd eu cyrraedd fel arall.

Yn 2025 yn unig, cafodd yr offer eu defnyddio dros 900 o weithiau, gan roi cyfle i bobl dreulio amser yn yr awyr agored gyda theulu a ffrindiau, ailymweld â hoff leoedd a mwynhau profiadau a allai fod yn anhygyrch fel arall.

Dywedodd Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant yr Awdurdod: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon. Mae’n cydnabod ymrwymiad pawb sy’n ymwneud â’r gwaith o wneud Sir Benfro yn lle mwy hygyrch a chroesawgar.

“Rydyn ni’n gwybod y gall mynediad i’r awyr agored gael effaith enfawr ar iechyd corfforol, llesiant meddyliol ac ansawdd bywyd pobl. Drwy weithio ochr yn ochr â busnesau lleol, partneriaid cymunedol, gwirfoddolwyr a’r bobl sy’n defnyddio ein hoffer, rydyn ni’n parhau i herio rhwystrau a’i gwneud hi’n haws i bawb fwynhau’r llefydd anhygoel sydd gan Sir Benfro i’w cynnig.”

Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn helpu i sicrhau dyfodol y cynllun drwy Raglen Partneriaeth Ewch i’r Awyr Agored, sy’n annog busnesau a sefydliadau i gyfrannu at offer newydd, costau cynnal a chadw a thrafnidiaeth er mwyn parhau â’n darpariaeth o brofiadau hygyrch yn yr awyr agored.

Mae’r rhaglen yn adeiladu ar gefnogaeth busnesau lleol, darparwyr offer a sefydliadau cymunedol. Mae’r gefnogaeth gan y rhain wedi bod yn ganolog i lwyddiant y cynllun Ewch i’r Awyr Agored dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gobeithio y bydd y wobr yn annog mwy o fusnesau a sefydliadau i gymryd rhan, gan helpu i ateb y galw cynyddol a sicrhau y gall mwy o bobl fwynhau arfordir a chefn gwlad Sir Benfro yn y blynyddoedd i ddod.

I gael rhagor o wybodaeth am gadeiriau olwyn y traeth ac offer pob tir sydd ar gael yn rhad ac am ddim, gan gynnwys lleoliadau a threfniadau archebu, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i fusnesau a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi’r cynllun drwy Raglen Partneriaeth Ewch i’r Awyr Agored: https://pembrokeshirecoasttrust.wales/support-us/get-outdoors.