Castell Caeriw yn paratoi at ddathliadau Nadolig Tuduraidd
Bydd Castell Caeriw yn troi’r cloc yn ôl fis Rhagfyr eleni, gan ddod ag addurniadau, synau a thraddodiadau Nadoligaidd Tuduraidd yn fyw am ddau benwythnos.
Bydd y digwyddiadau arbennig hyn yn cael eu cynnal ar 5-6 a 12-13 Rhagfyr, a bydd y Castell hanesyddol yn cael ei weddnewid â phlanhigion bythwyrdd persawrus, canghennau cusanu traddodiadol o oes y Tuduriaid, goleuadau pefriog a thanllwyth o dân, gan greu lleoliad hudolus i ymwelwyr o bob oed.
Yn ystod y ddau benwythnos, bydd Neuadd fach y Castell yn cael ei llenwi a bwrlwm yr ŵyl, wrth i gerddoriaeth Nadoligaidd, corau, cantorion a cherddorion lleol berfformio drwy’r dydd. Bydd sesiynau stori wrth y tân yn ychwanegu at yr awyrgylch hudolus, a bydd yr ymwelwyr iau yn cael cyfle i ddysgu am draddodiadau Nadoligaidd y gorffennol drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft o’r oes Duduraidd.
Gall teuluoedd hefyd gymryd rhan yn Helfa Deuddeg Diwrnod y Nadolig a chwilio am durturod, modrwyau aur a phob math o bethau Nadoligaidd, gan ddysgu am y stori y tu ôl i’r gân enwog. Mae cymryd rhan yn yr helfa hunan-dywysedig yn costio £2.50 y plentyn ac yn cynnwys gwobr Nadoligaidd.
Ac mae gennym un peth cyffrous arall i ymwelwyr bach edrych ymlaen ato; bydd Siôn Corn yn croesawu plant i’w groto clud ym muriau’r Castell. Gyda chymorth y corachod, bydd Siôn Corn yn rhannu holl hwyl yr ŵyl ac yn rhoi anrheg i bob plentyn fydd yn galw heibio.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Does dim amheuaeth fod y Tuduriaid yn gwybod sut i ddathlu’r Nadolig, ac rydym ni wedi dwyn rhai o’u traddodiadau gwych i wneud y penwythnosau hyn yn arbennig iawn. Mae’r Castell yn lle atmosfferig iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig pan fo’r tannau wedi’u cynnau a phan fo cerddoriaeth Nadoligaidd yn llenwi’r ystafelloedd. Bydd perfformwyr lleol gwych yn ymuno a ni, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld y Castell yn llawn bwrlwm a theuluoedd yn mwynhau.”
Os bydd y tywydd yn ffafriol, bydd detholiad o stondinau’n gwerthu anrhegion gan wneuthurwyr lleol, a bydd pob math o drysorau Nadoligaidd ar gael yn y siop hefyd. Bydd arogl siocled poeth a danteithion Nadoligaidd yn llenwi Ystafell De Nest a fydd yn rhoi croeso cynnes i ymwelwyr a seibiant o oerfel mis Rhagfyr.
Bydd penwythnosau Nadolig y Tuduriaid yn digwydd rhwng 10am a 4pm ar ddydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Rhagfyr, ac ar ddydd Sadwrn 12 a dydd Sul 13 Rhagfyr.
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau’n gynwysedig ym mhris mynediad safonol y Castell, sef £8 i oedolion, £6 i blant a £25.50 i deuluoedd. Bydd cymryd rhan yn Helfa Deuddeg Diwrnod y Nadolig yn costio £2.50 ychwanegol i bob plentyn.
Mae tocynnau i Groto Siôn Corn yn costio £12 y plentyn, ac yn cynnwys anrheg Nadolig a thocyn mynediad i’r Castell i’r plentyn ac i un oedolyn. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y groto.
I gael y manylion llawn, amserlenni’r perfformiadau byw a manylion archebu, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.