Darganfod poblogaeth newydd o frith y gors yng Nghwm Gwaun
Mae poblogaeth newydd o frith y gors wedi ei darganfod yng Nghwm Gwaun gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gwirfoddolwyr o’r Butterfly Conservation. Daw hyn â gobaith newydd i un o loÿnnod byw mwyaf bregus Ewrop, sydd wedi diflannu o 43% o’i gynefinoedd ym Mhrydain ers 1985.
Mae brith y gors yn ffynnu mewn porfeydd rhos. Mae lindys y glöyn byw yn bwyta’r planhigyn tamaid y cythraul, sydd dal yn bresennol yn nhirwedd Sir Benfro. Mae’r sir yn parhau i fod yn un o gadarnleoedd y rhywogaeth, a hynny er gwaethaf y dirywiad sydyn yn ei phoblogaethau yng ngweddill ardaloedd Prydain.
Yr haf hwn, cafodd poblogaeth ei chofnodi gan wirfoddolwyr mewn dôl gorsiog a chysgodol oedd wedi ei hamgylchynu gan goetir hynafol. Mae Awdurdod y Parc yn gweithio â’r teulu ffermio sy’n berchen ar y tir i sicrhau ei fod yn parhau yn addas at ddibenion pori traddodiadol ar gyfer gwartheg, ac yn helpu i gynnal glaswelltiroedd sydd yn llawn rhywogaethau ar gyfer brith y gors a bywyd gwyllt eraill yn y dyfodol.
Dywedodd Mary Chadwick, Swyddog Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae dod o hyd i boblogaeth newydd o frith y gors yng Nghwm Gwaun yn hwb sylweddol i’r rhywogaeth yn lleol. Mae’n adlewyrchu’r gwaith arolygu gofalus y mae’r gwirfoddolwyr wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd yn ogystal â’r bartneriaeth ymarferol sydd gennym â ffermwyr i sicrhau bod y dulliau pori cywir ar waith. Drwy reoli porfeydd rhos a phlanhigion tamaid y cythraul, rydym ni’n cryfhau clwstwr o safleoedd cyfagos fel bod y glöyn byw yn gallu crwydro rhyngddynt a pharhau yn wydn yn y tymor hir.”
Mae’r safle ar un o bedair fferm yn yr ardal sydd, gyda’i gilydd, yn creu meta boblogaeth o nythfeydd agos ond unigol o frith y gors. Mae’r Awdurdod wedi cefnogi dulliau pori ym mhob un ohonynt drwy fesurau fel clirio prysgwydd, seilwaith ffensio, a thechnoleg ffensio rhithiol, gan sicrhau bod yr amodau’n parhau’n addas i’r glöyn byw.
Ariennir y prosiect hwn gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
